Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru

Gwnaeth Peter Davies (gynt yn Gomisiynydd Cymru y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy) ddechrau ei swydd newydd fel Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar 1 Ebrill 2011.

Yn dilyn diwedd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, ar ddiwedd mis Mawrth 2011, mae'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy newydd yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac yn rhoi arweiniad ar ddatblygu cynaliadwy drwy Gymru.

Caiff swyddogaeth y Comisiynydd ei gefnogi gan Cynnal Cymru, gan alluogi safbwyntiau a phrofiadau’r gymuned ehangach yng Nghymru i gael eu rhannu gyda’r Comisiynydd a’u bwydo fewn i’w gyngor i lywodraeth.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru yng nghyswllt Datblygu Cynaliadwy, a bydd y trefniadau hyn yn hanfodol i'w helpu i gyflawni ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy fel ‘prif egwyddor drefniadol.’

Bydd y Comisiynydd yn helpu Llywodraeth Cymru ac eraill i roi gwell ansawdd bywyd i bobl Cymru yn awr ac yn y tymor hir. Bydd hefyd yn rhoi llais i genedlaethau'r dyfodol, a fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau'r penderfyniadau a wnawn ni heddiw.

Rolau’r Comisiynydd yw:

  • Rhoi arweiniad ar ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru;
  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol ym mhob sefydliad yng Nghymru, a hyrwyddo mewnosod datblygu cynaliadwy i waith sectorau a chymunedau yng Nghymru, yn unol â'r ymrwymiad polisi yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned;
  • Cynnull rhanddeiliaid sy'n cynrychioli sectorau neu faterion perthnasol, a datblygu partneriaethau i ymateb i faterion anodd ar sail 'cynghrair o'r rhai sy'n barod i wneud';
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar y polisïau a'r dulliau y mae eu hangen i hyrwyddo a gweithredu datblygu cynaliadwy; a
  • Darparu cyngor priodol i Lywodraeth Cymru ar y trefniadau tymor hwy ar gyfer hyrwyddo a chynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru