Dim pleidlais eto

Uwchgynhadledd Eginiad 2012 – Creu’r Dyfodol

12:00am - 12:00am
7 Medi - 9 Medi 2012

Cymerwch ran yn Uwchgynhadledd Eginiad – digwyddiad mawr ar gyfer y celfyddydau a chynaliadwyedd yn dod ag arweinwyr, meddylwyr a gweledyddion at ei gilydd.

Mae Uwchgynhadledd 2012 yn ddigwyddiad celfyddyd a chynaliadwyedd o bwys sy’n cael ei gyflwyno gan Volcano a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ac mae’n cychwyn ar yr un pryd yng Ngogledd a De Cymru gan gwrdd ar safle anghyffredin a hardd Canolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.

Bydd Eginiad 2012 yn dod â gwaith arloesol Canolfan y Dechnoleg Amgen ar seilwaith carbon isel ynghyd â gwaith Volcano ar ddatblygu rôl y celfyddydau fel pair syniadau a gweledigaethau ar gyfer cymdeithas gynaliadwy. Bydd dwy ran i’r Uwchgynhadledd: sef cynhadledd ryngwladol o arweinwyr, meddylwyr a gweledyddion; a thaith tir pum diwrnod trwy Gymru ar droed, wedi’i churadu gan yr artist Cymreig Simon Whitehead, a fydd yn dod i ben yn y gynhadledd.

Mae Eginiad yn fenter ar y cyd a ddechreuwyd yn 2010 gan Cynnal Cymru mewn partneriaeth â Theatr Volcano 

 

Lleoliad

Canolfan y Decnoleg Amgen, Machynlleth

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru