Dim pleidlais eto

Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2012 y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd

10 Jul 2012 - Adroddiad
Awdur(on): CCNH, Committee on Climate Change

Mae adroddiad cynnydd 2012 y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd yn ystyried tueddiadau o ran allyriadau dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn gwerthuso cynnydd sylfaenol o ran gweithredu mesurau a pholisïau lleihau carbon yn y DU.  Mae’n asesu perfformiad polisïau’r llywodraeth o ran lleihau allyriadau - gan gynnwys meysydd fel Diwygio’r Farchnad Drydan, y Fargen Werdd a Dal a Storio Carbon. 

Mae’r adroddiad wedi canfod bod Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi gostwng 7%. Fodd bynnag, 0.8% yn unig o hyn y gellir ei gysylltu’n uniongyrchol â gweithredu mesurau gostwng carbon rhagweithiol. Mae hyn yn golygu bod cyfradd y cynnydd sylfaenol ond yn chwarter yr hyn sydd ei angen i fodloni targedau carbon yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r heriau sy’n parhau ar draws meysydd allweddol, sef: diffyg buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a phŵer carbon isel; effeithlonrwydd ynni a gwres adnewyddadwy mewn adeiladau; a chludiant a theithio glanach.

Cysylltiadau we perthnasol

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru