Mae cyfle unigryw wedi codi gyda Cynnal Cymru i Gyfarwyddwr Gweithredol ymuno â thîm sefydledig ym Mae Caerdydd.
Bae Caerdydd
Oddeutu £50,000 a Phensiwn
Cynnal Cymru yw arbenigwyr datblygu cynaliadwy Cymru. Ein diben yw ymgysylltu, enghreifftio, galluogi ac annog datblygu cynaliadwy i fod wrth wraidd gwneud penderfyniadau yng Nghymru (a thu hwnt). Yn 2012, enillodd Cynnal Cymru gytundeb sylweddol tair blynedd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘Cymorth Allanol ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru’.
Mae hwn yn gyfle eithriadol i unigolyn cryf ei gymhelliad, ymarferol, a all arwain Cynnal Cymru o’r
tu blaen, gyflawni’r cytundeb tair blynedd i ddyddiadau cwblhau tynn, a cheisio ennill busnes newydd ar gyfer y dyfodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes brofedig o gyflwyno ystod amrywiol o raglenni ac o ddatblygu busnesau newydd yn llwyddiannus.
Bydd gennych ddealltwriaeth ragorol o ddatblygu cynaliadwy. Gan ystyried cyfraniad iaith a diwylliant i ddatblygu cynaliadwy, mae’n ddelfrydol (ond nid hanfodol) eich bod chi’n gyfathrebwr dwyieithog cymhellol. Bydd gennych brofiad rheoli llwyddiannus sylweddol a diweddar hefyd ar lefel weithredol neu uwch yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector.
Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â
Ross Brown ar 02920 642038 neu anfon eu CV
a llythyr eglurhaol ar ffurf neges e-bost at
rossbrown@uk.michaelpage.com gan ddyfynnu’r cyfeirnod swydd MPWM13243261.
Bydd pob cais trydydd parti’n cael eu hanfon at Michael Page.Y dyddiad cau ar gyfer pob cais yw
canol dydd, dydd Iau 5 Gorffennaf 2012.
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru