Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi lansio ei gynllun ar gyfer rheoli cynaliadwy a hyrwyddo hamdden yn y Parc a’r dyfroedd arfordirol cyfagos.
Fforwm Arfordirol Sir Benfro sydd wedi cydlynu’r Cynllun Hamdden, o’r enw ‘Mwynhau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro’, ac fe’i hariannwyd ar y cyd gan Croeso Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Meddai Pennaeth Rheoli a Chyflenwi Parciau’r Awdurdod, Charles Mathieson: “Dylai unrhyw un sy’n datblygu cyfleusterau hamdden, gweithgareddau newydd neu ddigwyddiadau pwysig yn y sir ddarllen y cynllun hwn. Mae angen i ni fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd sydd ar gael yn y dirwedd hyfryd hon yn ogystal â gofalu nad ydym yn difrodi’r hyn y mae pobl yn ei werthfawrogi amdani.
“Mae angen i ni hefyd annog gweithgareddau sy’n gwneud defnydd llawn o gymeriad yr ardal leol yn hytrach na’r rhai sy’n achosi gwrthdaro neu’n erydu cymeriad arbennig y sir.”
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru