Mae ‘Put your money where your mouth is’ yn fenter newydd gyffrous gan Ardd Farchnad Glan yr Afon sy’n gwahodd unigolion i fod yn rhanddeiliaid a helpu i godi arian ar gyfer offer newydd.
Cost cyfranddaliadau unigol yw £50 yr un ac mae rhanddeiliaid yn dod yn rhan o ‘deulu’ yr Ardd Farchnad, a byddant yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar y safle. Hefyd, bydd aelodau yn derbyn diweddariadau rheolaidd ynglŷn â chynnydd y prosiect yn ogystal â disgownt arbennig o £2 y mis yn yr Ardd Farchnad.
Mae’r Ardd Farchnad yn fenter gymdeithasol y mae mwy na 100 o aelodau yn berchen arni ac oherwydd ei strwythur cyfreithiol, nid ydynt yn gallu talu buddrannau ar fuddsoddiad; fodd bynnag, mae’r fenter yn caniatáu i’r arian gynhyrchu ‘adenillion cymdeithasol’ a gellir gwerthu’r cyfranddaliadau yn ôl ar ôl tair blynedd.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Steve Garrett rcma@riversidemarket.org.uk
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru