Dim pleidlais eto

Hay on Earth 2012: Dragons’ Den Gwyrdd

4 May 2012
Ffynhonnell: TYF

Oes gennych chi brosiect cynaliadwy arloesol sydd angen cyllid?

Eleni, bydd Cyfres y Ddraig Werdd Hay on Earth yn cael ei chynnal o 5 i 9 Mehefin, ac ar ôl cyflwyno i banel o Ddreigiau, bydd pedwar prosiect buddugol yn y categorïau Grym Ieuenctid, Arloesedd ar gyfer Cynaliadwyedd, Gwaith a Theithio Cynaliadwy, a Dyfodol Cymunedol, yn ennill cyllid o £10,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae amser o hyd i gyflwyno eich prosiect! Dyddiad cau: 5.30pm, dydd Iau 17 Mai. 

Er mwyn cael pecyn ymgeisio, cysylltwch â Darren Gibbs darren.g@tyf.com neu ffoniwch 01437 720879

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru