Mae chwaraewyr Gleision Caerdydd wedi cyfnewid esgidiau rygbi am esgidiau glaw, gan roi help llaw gyda Brosiect Rhandir Cymunedol Glan-yr-afon i annog grwpiau cymunedol ledled Cymru i gynnig ar gystadleuaeth WWF Cymru ar gyfer Awr y Ddaear 2012.
Bob blwyddyn mae adeiladau a strwythurau enwog yn ymuno â busnesau, cymunedau a chartrefi ledled y wlad wrth iddynt ddiffodd eu goleuadau am 8.30pm ar 31 Mawrth 2012 i nodi Awr Ddaear WWF.
Meddai Dafydd Hewitt o dîm Gleision Caerdydd:
“Yng Nghymru rydyn ni’n adnabyddus am ein hymdeimlad cryf o gymuned ac am grwpiau lleol fel clybiau chwaraeon, ysgolion, tafarnau neu randiroedd cymunedol. Dwi’n siŵr y bydd grwpiau cymunedol yng Nghymru’n dyfeisio cynigion gwych ar gyfer y gystadleuaeth ac y bydd ganddynt obaith o arwain y gwaith o ddiffodd goleuadau ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Mae’r Gleision yn cefnogi Awr Ddaear WWF gant y cant a byddwn ni’n diffodd y goleuadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar y noson.”
I gynnig ar y gystadleuaeth, mae grwpiau angen esbonio pam mai nhw yw’r dewis amlwg i ddod yn Gymuned Hyrwyddo WWF ar gyfer 2012 – boed y gymuned yn ysgol, gweithle, stryd, pentref, tafarn neu glwb. Bydd y grŵp buddugol yn cael £1,000 oddi wrth Bartner Swyddogol WWF, MORE TH>N. Mae grant o £300 ar gael hefyd i fuddugwr cenedlaethol yng Nghymru i arwain y gwaith o ddiffodd goleuadau yng Nghymru.
Y cwbl mae angen i grwpiau ei wneud yw disgrifio, mewn 300 o eiriau neu lai, pam y dylai eu cymuned arwain y gwaith o ddiffodd goleuadau. Mae WWF eisiau clywed am y pethau cynaliadwy mae’r gymuned yn eu gwneud, neu y bydd yn eu gwneud ar ôl Awr y Ddaear. Ac mae eisiau gwybod sut maen nhw’n bwriadu dod â’r gymuned ynghyd am noson i’w chofio ar gyfer Awr y Ddaear. Gallan nhw hyd yn oed gynnwys llun a fideo i ategu eu cais ac i ddod ag ef yn fyw.
Dyddiad cau y gystadleuaeth: Chwefror 27. I gael manylion llawn, ewch i: www.wwf.org.uk/wales
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru