Mae Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy wedi cadarnhau ei benderfyniad i greu un corff i ddisodli Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Cafodd y penderfyniad ei wneud gan y Gweinidog ar ôl ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad diweddar ynglŷn â’r cynnig i greu corff newydd i reoli adnoddau naturiol Cymru.
Bydd y corff newydd yn sicrhau bod yr amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy er budd pobl, yr amgylchedd a'r economi yn awr ac yn y dyfodol. Bydd y Corff yn galluogi ymagwedd fwy integredig at gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru a bydd datblygiad cynaliadwy yn galon ei weithrediadau
Mi gafodd y penderfyniad yma’i wneud ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus i ganlyniadau’r ymgynghoriad ynglŷn â’r corff newydd. Cafwyd mwy na 300 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a hynny o amrywiaeth eang o ffynonellau. Gallwch gael mwy o fanylion am yr ymgynghoriad a’r ymatebion ar:
http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/sustainingwales/?lang=cym
Yn awr, bydd y dasg o recriwtio Cadeirydd, Prif Weithredwr a bwrdd anweithredol yn dechrau, a bydd hysbysebion yn cael eu rhoi yn y wasg Gymreig ddoe ac yn y Sunday Times. Disgwylir i’r corff newydd gael ei roi ar waith ar 1 Ebrill 2013.
Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith
Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni
Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru