Cynnal Cymru yn cefnogi Maint Cymru

Mae Maint Cymru yn gynllun cenedlaethol unigryw i gynnal ardal o goedwig drofannol sydd gymaint â Chymru, fel rhan o’r ymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.

Mae Cynnal Cymru wedi bod yn aelod cefnogol o Maint Cymru ers i’r prosiect lansio ym Medi 2010.

Gyda nifer o Bartneriaid Rhwydwaith, mae Cynnal Cymru yn cefnogi Maint Cymru drwy hybu’r prosiect i sefydliadau sy’n estyn yn eang, sydd â nifer fawr o staff, megis BT, neu sydd â chefnogaeth helaeth, megis Undeb Rygbi Cymru.

Roeddem yn falch o helpu yn ystod y lansiad yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, drwy drefnu gweithdy i’n sefydliadau Partner Rhwydwaith.

Yn ogystal, mae Cynnal Cymru wedi codi ymwybyddiaeth o’r prosiect trwy Restr Werdd Cymru - sef rhestr o gefnogwyr datblygiadau cynaliadwy a gyhoeddir yn flynyddol gan Cynnal Cymru. Dewisir Arwyr Gwyrdd o enwebiadau cyhoeddus ledled Cymru ac o bob maes datblygu cynaliadwy. Fel rhan o brosiect Maint Cymru, mae Cynnal Cymru wedi trefnu i blannu 104 o goed yn Boray, Kenya - un goeden i gynrychioli pob Arwr Gwyrdd sydd wedi ymddangos ar Restr Werdd Cymru hyd yn hyn. Trefnwyd hyn gan Ru Hartwell, un o Arwyr Gwyrdd 2009, a chwaraeodd ran hollbwysig yn sefydlu prosiect Maint Cymru yn 2008 a 2009.

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi Peter Davies yn ei rôl fel Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Peter Davies yw ymgynghorydd prosiect Tasglu Nodau Datblygu Mileniwm Cymru, a greodd Maint Cymru yn wreiddiol. Mae Peter Davies yn parhau i fod yn rhan o grŵp llywio’r prosiect.

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru