Emergence - Eginiad

Menter partneriaeth yw Emergence-Eginiad a ddatblygwyd ar y cyd gan Gynnal Cymru-Sustain Wales a Chwmni Theatr Volcano. Y bwriad oedd datblygu mudiad ar gyfer newid o fewn y celfyddydau yng Nghymru fel y gellir gweld y celfyddydau’n arwain proses angenrheidiol o newid diwylliannol wrth i ni wynebu bygythiadau dirfodol aruthrol yr 21ain ganrif.

Ar ôl cynnal tair cynhadledd fawr gyda’n gilydd yn 2010/11, mae Volcano a Chynnal Cymru wedi cymryd camau newydd mewn dau gyfeiriad cyfochrog. Mae Volcano’n arwain archwiliad ynghylch y ffordd y mae’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy yn llywio a dylanwadu ar y broses greadigol ac ymarfer artistig, tra bod Cynnal Cymru wedi cynnull partneriaeth sy’n cynnwys Creu Cymru (sef y corff datblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celf yng Nghymru), BRASS a Julie’s Bicycle i fynd i’r afael â datblygu cynaliadwy yng nghyd-destun yr amgylchedd adeiledig ac ystadau theatr. Mae prosiect Creu Cymru wedi casglu data sylfaenol ynghylch effeithiau amgylcheddol 42 o leoliadau ledled Cymru. O’r sylfaen hon, gan weithio gyda grŵp peilot, bydd y prosiect yn darparu offer a chefnogaeth i alluogi theatrau a lleoliadau i wella eu perfformiad amgylcheddol a dylanwadu ar ymddygiad cynulleidfaoedd, staff, cyflenwyr a phartneriaid busnes.

Mae Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn rhoi cyd-destun ar gyfer y prosiect hwn. Bydd y ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i fabwysiadu’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy fel yr egwyddor drefnu ganolog a fydd yn sail i bob penderfyniad sefydliadol ac i roi tystiolaeth ynghylch sut y caiff hyn ei weithredu’n ymarferol.

Mae nifer o aelodau Creu Cymru’n rhan o strwythur awdurdod lleol ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn derbyn cyllid gan y Cyngor Celfyddydau. Mewn perthynas â’r ddwy agwedd hon, gallant dybio y bydd y Bil yn effeithio arnynt. Bydd y prosiect yn rhoi’r modd a’r data i aelodau Creu Cymru ddangos cydymffurfiad cyn dechrau gweithredu’r Bil.

Caiff prosiect Creu Cymru Eginiad ei ariannu gan Gynllun Cymorth i Fyw’n Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, a gyflwynir gan Amgylchedd Cymru a Chynnal Cymru-Sustain Wales.

Tagiau Cynhadledd

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru