Ymgyrch tâl am fagiau siopa

O'r 1 Hydref 2011, dechreuodd Cymru i godi tâl am fagiau siopa untro (y wlad gyntaf yn y DU i wneud).

Pwrpas y tâl yw lleihau nifer y bagiau siopa untro sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, a’r problemau amgylcheddol sy’n digwydd o ganlyniad.

Mae’r Cwis hwn gan y BBC yn rhoi syniad da o bryd y bydd tâl yn ei godi.  Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu gwefan talu am fagiau untro sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth i ddefnyddwyr a manwerthwyr.

Ni fydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd i Lywodraeth Cymru; ond mae’r Llywodraeth yn annog manwerthwyr i roi’r arian o’r tâl i brosiectau amgylcheddol lleol.

Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw brosiectau da yn eich ardal leol sy’n bwriadu cydweithio â manwerthwyr i sicrhau bod y tâl yn cael ei ddefnyddio’n dda?  Os oes gennych chi brosiect amgylcheddol, beth am gysylltu â’ch manwerthwyr lleol i weld a allech chi gydweithio â’ch gilydd?  Os ydych chi’n ymwybodol o brosiect sy’n cydweithio â manwerthwyr mewn perthynas â’r tâl, rhowch wybod i ni ac fe rown ni gyhoeddusrwydd i’r gwaith da!

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru