Rhwydwaith y Siarter

Yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned, gwnaethom ddweud y byddem yn annog a galluogi sefydliadau eraill i wneud datblygu cynaliadwy yn egwyddor trefnu ganolog iddynt. Rydym yn bwriadu cyflawni hyn trwy ein Siarter Datblygu Cynaliadwy. 

Mae’r Siarter yn helpu sefydliadau o Gymru i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth a wnânt. Mae’n rhaid i sefydliadau o bob sector sy’n llofnodi’r Siarter wneud yr ymrwymiad hwn.

Hefyd mae llofnodwyr y Siarter yn :

Herio eu hunain bob blwyddyn i wneud pethau’n wahanol o ganlyniad i lofnodi’r Siarter; a chytuno i rannu arfer gorau'r hyn a wnânt ar hyn o bryd i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Bydd y fforwm hwn yn helpu’r rhwydwaith i:

Wella sut mae’n cydweithio;
Rhannu arfer gorau; a
Datblygu syniadau newydd sy’n cefnogi datblygu cynaliadwy.

Gallwch ddysgu mwy am y Siarter, gan gynnwys sut i gofrestru, drwy ymweld â 

LinkedIn Group

Siarter Datblygu Cynaliadwy

Sefydliadau sydd wedi dewis rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith

Ynni Cymunedol Cymru

Yn dwyn ynghyd cymunedau sy'n gweithredu ar ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni

Fframwaith Cymorth I Fyw’n Gynaliadwy

Fframwaith ar gyfer y sector cyhoeddus a'r drydydd sector yng Nghymru