Cartref
 »  Cyflwyno'ch hun  »  English
CymruGynaladwy.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Dangos Eitem Newyddion

Ymgyrch Treth Robin Hood: Pedair Gwaith y Nifer o Gefnogwyr Facebook Nag Sydd gan Brif Bleidiau Gwleidyddol y DU
Ymgyrch Treth Robin Hood: Pedair Gwaith y Nifer o Gefnogwyr Facebook Nag Sydd gan Brif Bleidiau Gwleidyddol y DU

Mae’r ymgyrch Treth Robin Hood - wedi’i sefydlu i bwyso am gyflwyno trethi trafodion ariannol - wedi cipio dychymyg y cyhoedd a chael cefnogaeth ar-lein enfawr mewn dim ond pythefnos.

Mae nawr gan yr ymgyrch bron 120,000 o gefnogwyr ar Facebook gyda dros 3,000 yn ymuno’n ddyddiol. Mae hyn bron i bedair gwaith mwy na chyfuniad cyfanswm y tri phrif blaid wleidyddol yn y DU a bron yn ddwywaith maint Democratiaid yr UDA.

Mae’r ymgyrch yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i gefnogi treth fach ar drafodion y banciau a sefydliadau ariannol eraill i godi cannoedd o filiynau o bunnoedd i fynd i’r afael â thlodi, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a thalu am weithredu ar newid hinsawdd adref a thramor.

Hoffai’r glymblaid o elusennau weld hanner yr arian a godwyd o’r dreth wedi’i wario’n fewnol a’r gweddill wedi ei rannu 50-50 rhwng lleihad tlodi ac ymgodymu â newid hinsawdd mewn gwledydd datblygol.

Cysylltwch â Luned Jones ar 07887 571687.

Yn ol
Amodau a Thelerau   Polisi Breifatrwydd  
Version: 1.13.1.0