Cartref
 »  Cyflwyno'ch hun  »  English
CymruGynaladwy.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Dangos Eitem Newyddion

Manylion am Gynllun Mynediad Di-dâl i’r Eisteddfod ar Ddydd Sul 1 Awst
Manylion am Gynllun Mynediad Di-dâl i’r Eisteddfod ar Ddydd Sul 1 Awst

Yn dilyn datganiad Y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ariannu cynllun mynediad di-dâl i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ddydd Sul 1 Awst, mae’r Eisteddfod wedi datgan sut fydd y cynllun yn cael ei weithredu.

Bwriad y cynllun yw rhoi blas o’r Eisteddfod i bobl, gan alluogi’r Dydd Sul i gael ei ddatblygu’n bellach fel diwrnod teuluol. Mae’r Eisteddfod yn arbennig awyddus i apelio at deuluoedd a’r rheini sy’n byw o fewn dalgylch yr ŵyl eleni, sy’n cael ei gynnal o 31 Gorffennaf - 7 yng Nglynebwy.

Bydd pobl leol Blaenau Gwent yn cael y cyfle cyntaf i apelio am docynnau di-dâl i’r Maes, gyda’r cynllun yn cael ei lansio ar 1 Mawrth. Gall pobl ledled Cymru geisio am docynnau di-dâl o 1 Mai ymlaen. Bydd tocynnau ar gael drwy ffonio 08454 090 300 neu 08454 090 400 neu drwy wefan yr Eisteddfod -
www.eisteddfod.org.uk.

Bydd ffurflenni cais ar gael mewn llyfrgelloedd, swyddfeydd y cyngor, adeiladau cyhoeddus a busnesau ar draws y wlad. Mae 10,000 o docynnau ar gael drwy’r cynllun.

Yn ol
Amodau a Thelerau   Polisi Breifatrwydd  
Version: 1.13.1.0