Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
|
Dangos Eitem Newyddion
Blasu Llwyddiant! - Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd
Mae Cymunedau'n Gyntaf Canol Tref Castell-nedd yn cwmpasu ardal fasnachol allweddol yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac felly, bu datblygu cysylltiadau â busnesau lleol yn flaenoriaeth ers sefydlu'r tîm. Gyda’r awydd i roi Castell-nedd yn sicr ar y map manwerthu, aeth Cymunedau'n Gyntaf, Cyngor Tref Castell-nedd, Rheolwr Canol y Dref a chwmni lleol La Crème Patisserie ati i gasglu cynhwysion ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod gyntaf Castell-nedd. Dechreuodd y diwrnod o ddanteithion blasus gydag Adam Jones, un o sêr y byd rygbi, yn ymuno â Siân Hindle o La Crème i roi'r arddangosfa goginio gyntaf. Ar hyd y dydd, gallai pobl ddysgu sut i goginio ryseitiau rhad a syml a ddefnyddiai'r cynnyrch lleol gorau, a hefyd, fwynhau samplau ar ddiwedd pob sesiwn! Y tu allan, roedd busnesau lleol eraill wedi ymuno â masnachwyr rheolaidd Marchnad Castell-nedd ar hyd strydoedd y dref gydag oddeutu 40 stondin o fwyd a diod blasus, ac er gwaethaf y tywydd gwlyb arferol, cafodd llawer o'r stondinwyr eu gwobr am wynebu'r elfennau drwy werthu eu stoc yn llwyr. Er mwyn cydbwyso'r holl demtasiynau, roedd llwyth o wybodaeth iechyd a lles ar gael hefyd. Roedd Radio Bae Abertawe wedi helpu i greu naws parti drwy ddarparu trac sain i'r diwrnod o'u trelar. Bu grwpiau lleol, megis y Rhaglen Gwirfoddolwyr Hŷn ac Wedi Ymddeol (RSVP) yn gwirfoddoli eu profiad i'r rhai a oedd yn awyddus i greu gerddi llysiau bach ar fodel 'Dig for Victory' yn y gweithdai i blant. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn i'r digwyddiad gan fusnesau ac aelodau o'r gymuned. Gyda chynifer o fasnachwyr yn awyddus i gymryd rhan mewn gŵyl arall yn y dyfodol, mae'n ymddangos ei bod wedi dwyn sylw'r ardal leol. Felly, y gobaith yw y bydd hynny'n golygu sefydlu'r digwyddiad yn sicr ar galendr Castell-nedd fel y mae'r Ffair Fedi enwog. Ffynhonnell: Bwletin Gwybodaeth Cymunedau Yn Gyntaf - Mawrth 2010. Yn ol |