Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
|
Dangos Eitem Newyddion
Lansio Cynllun Gweithredu Newydd i Sicrhau Dyfodol Tymor Hir Adnoddau Dŵr yng Nghymru
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (AAC) wedi creu cynllun tymor hir i sicrhau bod digon o ddŵr i bobl, yr economi a’r amgylchedd yn wyneb herion i ddod o newid hinsawdd a phoblogaeth sy’n tyfu. Mae’r Cynllun Gweithredu Adnoddau Dŵr yn gosod allan sut fydd AAC yn gweithio gyda sefydliadau eraill i amddiffyn a gwella adnoddau dŵr yn y dyfodol. Ymysg y mesurau mae ymchwilio trawiadau i ddod wrth newid hinsawdd ar adnoddau dŵr a chyflenwad dŵr, symleiddio’r broses caniatáu ar gyfer datblygiadau pŵer hydro a gweithrediadau i leihau defnydd dŵr ar draws pob sector i helpu gostwng allyriadau carbon. Gallai newid hinsawdd leihau’r maint o ddŵr sydd ar gael yn flynyddol mewn afonydd yng Nghymru gan fyny at 15 y cant erbyn 2050, a gallai bod 400,000 yn fwy o bobl yn byw a gweithio yng Nghymru, bydd yn ymestyn cyflenwadau dŵr ymhellach. Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr, AAC: ‘Mae angen i bobl a busnesau gwerthfawrogi dŵr a’i ddefnyddio’n fwy effeithlon. Mae’r gweithredoedd yn ein cynllun newydd yn ymdrin â chamau sydd angen eu cymryd gan gwmnïau dŵr, Llywodraeth, rheolyddion, busnes a’r cyhoedd. Mae angen arnom ddull cysylltiedig i reoli cyflenwadau dŵr i atal diffygion dŵr yn y dyfodol. Bydd rheolaeth dda o adnoddau dŵr o fudd i gymdeithas, yr economi ac yn sicrhau fod yr amgylchedd yn parhau i gael ei amddiffyn. Gellid gweld y cynllun gweithredu yma: www.environment-agency.gov.uk/wrs. Yn ol |