Cartref
 »  Cyflwyno'ch hun  »  English
CymruGynaladwy.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Dangos Eitem Newyddion

Gwlypdiroedd Gwerth y Traed Gwlyb, meddai Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Gwlypdiroedd Gwerth y Traed Gwlyb, meddai Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Mae Hilary Foster - swyddog bioamrywiaeth i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (AAC) - yn helpu i amddiffyn a gwella ‘gwlypdiroedd’ y genedl, amrywiaeth o ecosystemau pwysig a nodedig.

Esboniodd Hilary: ‘Mae gwlypdiroedd yn gynefinoedd sy’n dibynnu ar ddŵr ac yn cynnwys corsydd, gwelyau cyrs, pyllau a ffosydd. Maent yn ddynamig, yn swynol ac yn llefydd arbennig.’

Mae Hilary ar fin cwblhau prosiect gwlypdiroedd yn Berwick ger Llanelli - ardal o dir oedd gynt wedi ei ddatblygu ac sydd nawr heb ei ddefnyddio gyda rhwydwaith o ffosydd ac ardaloedd gwlyb sydd wedi dod yn gartref i nifer o rywogaethau gan gynnwys adar, dyfrgwn a llygod y dŵr. Ac mae Hilary wedi dod i garu llygoden y dŵr.

Dywedodd hi: ‘Trwy fy ngwaith rwyf wedi dod yn hoff iawn o’r mamaliaid cynyddol brin yma. Maent yn swil ofnadwy - mae’n anodd iawn eu gweld - felly mae’n braf iawn gweld un ac yn wych gwybod eu bod yn elwa o’r gwelliannau rydym yn eu gwneud.’

Mae Hilary a’i chyfeillion yn barod wedi creu pyllau newydd yn Berwick i ddarparu ardal agored sy’n bwysig i lygod y dŵr. Maent nawr yn gweithio i symud y prysg helaeth o’r ffosydd a’r cloddiau i adael fewn mwy o olau a gwella cynefin llygod y dŵr.

2010 yw Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth fel y datganodd y Cenhedloedd Unedig. Mae AAC yn annog paw bi wneud un peth i helpu diogelu a gwella bioamrywiaeth i wneud â dŵr ar draws Cymru. Ymwelwch â gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru: http://www.biodiversitywales.org.uk/local_to_you-3.aspx.

Cysylltwch â Rachael ar 029 2046 6026 neu rachael.mullins@environment-agency.gov.uk.

Yn ol
Amodau a Thelerau   Polisi Breifatrwydd  
Version: 1.13.1.0