Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
|
Dangos Eitem Newyddion
Ymunwch â Chyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynrychioli llefydd, am byth, am bawb. Mae’n edrych ar ôl nifer ac amrywiaeth syfrdanol - o dai a gerddi hanesyddol, i forlin a chefn gwlad. Heddiw, mae ganddi tua 3.8 miliwn o aelodau, ac mae’n croesawi dros 50 miliwn o ymwelwyr pob blwyddyn. Wrth iddi dyfu fel elusen, wrth i’w swyddogaeth mewn cymdeithas ddatblygu, mae’n hanfodol ei fod yn cadw’n ffyddlon i’w hegwyddorion sefydlu a’i chyfrifoldebau statudol. Dyna swyddogaeth y Cyngor. Fel gwarcheidwad ysbryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei brif gyfrifoldebau yw sicrhau atebolrwydd, llunio datblygiad polisi ac ysbrydoli cefnogaeth. Fel aelod etholedig o’r Cyngor, byddwch yn sicrhau ei fod yn gwneud hynny. I ddechrau, mae’r lleoliad am dair blynedd, gyda photensial i’r tymor gael ei adnewyddu dwywaith. Mae’n wirfoddol, ond bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn talu’ch treuliau. Ymwelwch â www.nationaltrust.org.uk/gov-vacancies neu galwch 01793 817988. Dyddiad cau: 26 Mawrth. Yn ol |