Cartref
 »  Cyflwyno'ch hun  »  English
CymruGynaladwy.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Dangos Eitem Newyddion

Cynllun Grant Gwerth £7.8 Miliwn i Droi Cymru yn Bwerdy Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Grant Gwerth £7.8 Miliwn i Droi Cymru yn Bwerdy Ynni Adnewyddadwy

Cafodd cynlluniau i droi Cymru yn bwerdy ynni adnewyddadwy hwb pan ddatgelodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, gynllun grant gwerth miliynau i fynd â Chymru i’r blaen yn niwydiant ynni pren Prydain.

Bydd cynllun WEBS 2, a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn darparu £7.8 miliwn o gyllid Ewropeaidd i alluogi troi pren o Gymru yn danwydd adnewyddadwy carbon niwtral – gan greu swyddi ac ysgogi ein heconomi wledig ar yr un pryd.

Bydd WEBS 2, sydd ar gael i fusnesau ledled Cymru, yn galluogi’r farchnad ynni pren i gyfrannu at amcanion strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer coetiroedd a choed, sef Coetiroedd i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog y byddai Cynllun Busnes Ynni Pren 2 (WEBS 2) yn helpu i fynd â Chymru i’r blaen ym maes cynhyrchu ynni glân yn y DU, drwy helpu busnesau i droi’r deunydd crai a geir yn ein coedwigoedd yn wres neu’n bŵer adnewyddadwy.

I gael y stori lawn, ewch at http://wales.gov.uk/news/latest/100225powerhouse/?lang=cy.

Yn ol
Amodau a Thelerau   Polisi Breifatrwydd  
Version: 1.13.1.0