Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
|
Dangos Eitem Newyddion
Tai Bwyta’n Lansio Cymdeithas Cynaladwyedd
Mae tai bwyta Prydeinig wedi dod ynghyd i sefydlu cymdeithas er mwyn creu enw gwell iddynt o ran perfformiad amgylcheddol. Lansiwyd y Gymdeithas Tai Bwyta Cynaladwy (SRA) ar Fawrth 1. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd mae’r diwydiant tai bwyta’n gyfrifol am 3M tunnell syfrdanol o wastraff bwyd yn flynyddol yn Lloegr a Chymru. Mae tai bwyta’n taflu tua 600,000 tunnell o fotelau gwydr y flwyddyn ac yn defnyddio 391M metr ciwbig o ddŵr yn flynyddol, digon i lenwi dros 104,000 o byllau nofio maint Olympaidd. Mae’r SRA hefyd yn bwriadu helpu tai bwyta i sylweddoli nad yw bod yn wyrdd yn mynd i fod yn faich mawr i’w cyllidebau. Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y SRA, Simon Heppner: ‘Mae ystod eang o bwysau ar dai bwyta i fod yn fwy cynaladwy ac rydym yn bwriadu dangos nad oes angen iddo fod yn gymhleth na drud ac yn hytrach mae’n nod syml a chyraeddadwy. ‘Drwy ymateb i’r her yma gall tai bwyta bodloni cwsmeriaid a chael cwsmeriaid newydd, ond hefyd maent yn gallu gwneud newid positif dros yr amgylchedd a chymdeithas a chael eu gwobrwyo’n iawn am eu hymdrechion.’ Gan Luke Walsh at Edie. Ewch at: http://www.edie.net. Yn ol |