Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
|
Dangos Eitem Newyddion
'Gwastraffu Llai, Ailgylchu Mwy a Dim Llosgi’ - Dyfarniad Cyfeillion y Ddaear Cymru ar Fesur Gwastraff
Mae Mesur Gwastraff (Cymru) Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond nid yw’n mynd digon pell i gwrdd â herion mawr newid hinsawdd a disbyddiad adnoddau. Mewn ymateb i’r Mesur, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw am dargedau ailgylchu mwy uchelgeisiol a tharged rhwymedig ar leihau gwastraff. Mae’r grŵp hefyd am i LlCC gollwng llosgi fel opsiwn am ddelio gyda gwastraff, am y byddai hyn yn tanseilio targedau am ailgylchu a lleihad gwastraff. Dywedodd Haf Elgar, ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear Cymru: ‘Y peth mwyaf siomedig yw’r diffyg targed ar gyfer lleihad gwastraff, yr hyn dylai fod yn ystyriaeth gyntaf pob tro. Mae lefelau gwastraff wedi bod yn disgyn yn ddiweddar, ond mae angen targedau cryf i barhau â hyn a’i gyflymu. Mae angen arnom dargedau lleihad gwastraff trefol o o leiaf 34% erbyn 2025 a 65% erbyn 2050 yn y Mesur yma. ‘Mae targed Llywodraeth y Cynulliad o gyflawni 70 y cant ailgylchu erbyn 2025 yn gam i’r cyfeiriad cywir, ac mae’n galonogol i feddwl y bydd nawr gennym dargedi sy’n orfodol yn gyfreithiol, ond mae’n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol. Mae’r Almaen a Fflandrys yn barod yn cyflawni’r raddfa yma. Os mae Cymru o ddifrif am gynaladwyedd, dylem anelu at 70 y cant ailgylchu erbyn 2015 a 80 y cant erbyn 2020. ‘A gyda’r llwch o’r llosgyddion enfawr, sydd efallai yn dod i Gymru, yn cael eu cyfri at y targedi yma, bydd ailgylchu’n cael ei danseilio ymhellach a chynghorau yn cael cymhelliad gwrthnysig i losgi’n sbwriel. ‘Nid yw llosgi yn dechnoleg ‘gwyrdd’ am ei bod yn cynhyrchu llwch gwenwynig, yn allyrru maint eithafol o garbon deuocsid, a gallai ei ddefnydd gwanhau cymhelliad i leihau gwastraff a hybu ailgylchu. ‘Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawi’r ffaith for Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i’r afael â’r angen i ddelio gyda’n gwastraff, ond mae llawer i’w wneud o hyd os ydym am drawsffurfio Cymru fewn i gymdeithas ‘diwastraff’.’ Am wybodaeth bellach, gwelwch adroddiad Cyfeillion y Ddaear Cymru ‘Towards Zero Waste’: http://www.foe.co.uk/resource/consultation_responses/waste_consultation_wales_july09.pdf Crynodeb: http://www.foe.co.uk/resource/consultation_responses/waste_consult_summary_wales_july09.pdf Nid barnau Cynnal Cymru - Sustain Wales o reidrwydd a roddwyd yn yr eitem newyddion yma. Yn ol |