Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Ar 19-20 Medi, bu Cynnal Cymru-Sustain Wales a Sefydliad Materion Cymru yn cyd-gynnal Trawsffurfio Cenedl: Ymateb Cymru i Newid Hinsawdd. Mae’r digwyddiad, cadeiriwyd gan Cynog Dafis, wedi denu siaradwyr uchel eu proffil gan gynnwys George Monbiot, Syr John Houghton, Patrick Holden, Mark Lynas, Morgan Parry a Pete Segger.
Ar y diwrnod cyntaf bu cyfarfod blynyddol Cynnal Cymru ac yna anerchiad fin nos gan George Monbiot. Ar yr ail ddiwrnod bu siaradwyr yn archwilio, mewn modd ymarferol, y rhyngweithiadau cymhleth rhwng newid hinsawdd a diwylliant gwledig: o’r bydol i’r lleol go iawn.
Bu dros 140 o gynadleddwyr yno dros y ddau ddiwrnod, yn Nhabernacl Machynlleth. Darllenwch grynodeb o'r trafodaethau (Saesneg yn unig).

Paul Allen, George Monbiot, Morgan Parry, Helen Nelson.
Penodiad ein Haelodau Bwrdd Newydd
Yn y cyfarfod blynyddol eleni, a'i cynhaliwyd yn y Tabernacl, Machynlleth, penodwyd 4 cyfarwyddwr newydd i'r Bwrdd. Bu'r penodiadau yn ganlyniad o etholiad democrataidd yn yr haf.
Penodwyd yr aelodau newydd Dr Einir Young (Cymdeithasol), Gareth Clubb (Cymdeithasol) a Dr Alan Netherwood (Datblygiad Cynaladwy) ac ail-etholwyd Haf Roberts (Datblygiad Cynaladwy). Hoffem groesawi'r pedwar i'r Bwrdd ar ran y Cadeirydd, y Bwrdd a'r staff.
Safodd Gwenan Davies, Catherine Hester a Dr Ruth Williams i lawr o'r Bwrdd eleni. Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i'r unigolion yma am eu hymroddiad a gwaith caled dros y blynyddoedd diweddar yn datblygu Cynnal Cymru-Sustain Wales yn sefydliad llwyddiannus.
Ail-etholwyd Morgan Parry a Sue Price gan y Bwrdd fel Cadeirydd ac Ysgrifenyddes y Cwmni.
CBC 2008
Lawrlwytho'r agenda* - Lawrlwytho'r rhaglen
Cyflwyniadau:
How can Wales Make a Difference to Climate Change - John Houghton*
Adapting Forests to Climate Change - Jon Owen Jones*
The Dyfi Biosphere Reserve - Andy Rowland*
Zero Carbon Technologies - Peter Harper*
The Transition Towns Movement - Peter Segger*
Transformation Nation: Responding to Climate Change - Morgan Parry*
* Saesneg yn unig