»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Yr Eisteddfod 2008

Ymunwch â Cynnal Cymru-Sustain Wales yn eu cartref cynaladwy ar faes yr Eisteddfod i weld pa mor rhwydd gall hi fod i fyw'n gynaladwy, gyda chyngor 'gwyrdd' a moesegol. Diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Ecotricity, Draig Technology, Ecover, Innocent Smoothies a llu o noddwyr eraill bydd y stondin yn gwmws fel cartref go iawn - gyda gardd a phob dim! Diolch i’n noddwyr

Wedi ei adeiladu o bren FSC, bydd yn arddangos nodweddion megis ynysiad a bydd yn llawn syniadau ysbrydoledig i'ch helpu i wneud dewisiadau cynaladwy oddi mewn o fasnach deg ac organig i gyngor arbed ynni a dŵr.

Ymgeisiwch yn y gystadleuaeth, 'Rowch Eich Newid Mân' a fedrwch ennill blwyddyn o ynni 'gwyrdd'. Gyda gwesteion i de, cerddoriaeth, a gweithdai ymarferol mae digon i chi wneud ac nid oes angen cadw lle o flaen llaw. Mae croeso i chi daro mewn.


Lawrlwytho yr rhaglen gyfan.

Download "Wales in 2050: A view from the future"
A talk by Morgan Parry


Llun 4ydd Awst

Lansio Cystadleuaeth Rhowch Eich Newid Mân

Caiff ein cystadleuaeth Rhowch Eich Newid Mân ei lansio ar ddydd Llun 4ydd gyda chyflwynydd tywydd S4C a phedwar disgybl o ddwy ysgol yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon. Yn yr hydref, gwelir y pedwar disgybl yn creu chwyldro gwyrdd yn eu milltir sgwâr ar Cwm Glo Cwm Gwyrdd S4C.

Lansiad Cystadleuaeth: 11-12yp, Llun, 4 Awst.

 

Cyfrifiannell ôltroed Ecolegol Gymraeg

Bydd WWF Cymru yn gwahodd pawb i mewn i lenwi eu cyfrifiannell ôltroed ecolegol Gymraeg newydd. Bydd yn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg ddarganfod eu defnydd unigol a darllen a dysgu mwy am sut i fyw'n fwy gwyrdd, a chwblhau'r gyfrifiannell yn eu hiaith eu hunain. Dewch draw i weld sut fedrwch chi leihau'ch effaith ar y blaned.

Cyfrifiannell WWF: 12-3yp, Llun, 4 Awst a 2-5yp, Mercher, 6 Awst.

 

Mawrth 5ed Awst

Cymraeg Bob Dyd

Galwch mewn am y cyfle i ddysgu mwy am feddalwedd iaith Gymraeg ar gyfer eich cyfrifiadur yn y gwaith neu gartref gyda Draig Technology Cyf.

Ddim yn siarad Cymraeg?  Dewch mewn beth bynnag a chewch ddysgu ambell i frawddeg ddefnyddiol!

Cymraeg Bob Dydd: galwch mewn 11yb-1yp, Mawrth, 5 Awst.

 

Taclo Newid Hinsawdd Gyda’n Gilydd - DVD

Gwnaethom weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i wneud ffilm i ddangos sut mae pobl ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac i’ch ysbrydoli i ymuno a hwy wrth weithredu.

Taclo Newid Hinsawdd Gyda’n Gilydd (17 munud.):  chwarae’n aml 2-5yh, Mawrth, 5 Awst.

 

Mercher 6fed August

Cyfrifiannell ôltroed Ecolegol Gymraeg

Bydd WWF Cymru yn gwahodd pawb i mewn i lenwi eu cyfrifiannell ôltroed ecolegol Gymraeg newydd. Bydd yn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg ddarganfod eu defnydd unigol a darllen a dysgu mwy am sut i fyw'n fwy gwyrdd, a chwblhau'r gyfrifiannell yn eu hiaith eu hunain. Dewch draw i weld sut fedrwch chi leihau'ch effaith ar y blaned.

Cyfrifiannell WWF: 12-3yp, Llun, 4 Awst a 2-5yp, Mercher, 6 Awst.

 

Rheoli Plâu'r Ardd yn Organig

Ymunwch â Marchnad Bwyd Go Iawn lleol Glanrafon a gwirfoddolwyr y Gerddi Lotment am wers mewn rheoli plâu yn eich gardd. Nid oes arnoch angen unrhyw beth ond am frwdfrydedd!

Rheoli plâu'r ardd yn organig: galwch mewn rhwng 2-5yp, Mercher, 6 Awst gyda Cat Siveter.

 

Iau 7fed Awst

Creu Paent Naturio

Dysgwch i greu’ch paentiau a staeniau pren iach eich hunain o gynhwysion naturiol, yn defnyddio ryseitiau a thechnegau traddodiadol. Yn syml, cyfunwch gynhwysion organig fel llaeth, wyau a phigment mwyn naturiol i greu gorffeniad lliwgar ac iach i’ch cartref. Ni fydd angen i chi ddod ag unrhyw beth, darparir yr holl ddeunyddiau ichi!

Creu Paent Naturiol: galwch mewn rhwng 11yb-1yp, Iau, 7 Awst gydag Anna Haslock, Rounded Developments.

 

Gai Toms

Gydag offer drymiau wedi ei wneud o hen jync ac albwm wedi ei gynhyrchu mewn modd ecogyfeillgar, mae Gai Toms yn profi gall y diwydiant cerdd hefyd droi dalen lân! Gwrandewch ar rai o’r caneuon o’i albwm Rhwng y Llygru a'r Glasu, caneuon sy’n adlewyrchu pryderon y canwr am yr amgylchedd a dynoliaeth. Bydd Gai yn falch o ateb eich cwestiynau.

Sesiwn cerdd Gai Toms: 2-3yp, Iau, 7 Awst.

 

Gwener 8fed Awst

Nappuccino

Bore coffi i ddysgu mwy am gewynnau go iawn. Mwynhewch baned a dysgwch am yr holl fanteision a’r anfanteision. Bydd digon ar gael i chi eu gweld a’u teimlo gyda’u Felcro neu wedi eu sicrhau gyda ‘poppers’, ac ystod o ddefnyddiau, lliwiau a phrintiau gan gynnwys printiau pastel ac anifeiliaid. Dewch mewn rhwng 11yb a 12yp a gall eich plant ymuno â’r hwyl gyda Cyw o S4C a chyflwynwyr teledu eraill.

'Nappuccino' bore coffi Cewynnau Go Iawn: dewch mewn rhwng 11yb-1yp, Gwener, 8 Awst gyda Siân Dando a Cyw a’i gang o S4C!

 

Siopa'n Foesegol gyda SUSSED

Cydweithfa yn y gymuned yw SUSSED sy'n hybu, addysgu a chyflenwi cynnyrch a gwasanaethau llesol i'r amgylchedd a moesegol-gadarn. Mae stoc yn cynnwys amrywiaeth eang o nwyddau: rhoddion, dillad, eitemau i'r cartref, gemwaith, llyfrau, a chynnyrch ecogyfeillgar.

1-5yp, Gwener 8 Awst gyda SUSSED.

 

Sadwrn 9fed Awst

'Chic' Siopau Elusennol - Canllaw Ymarferol i Greu Newydd o'r Hen!

Darganfyddwch ffyrdd newydd i roi bywyd newydd i'ch hen ddillad a dillad o siopau elusennol gan ddefnyddio deunyddiau crefft a hyn a'r llall o gwmpas y tŷ.  Dewch a'ch dychymyg - darperir pob dim arall.

11yb-1yp, Sadwrn, 9 Awst gyda Roz Robinson a Lynsey Jackson.

 

 

 

Diolch i’n noddwyr

Llywodraeth Cynulliad Cymru: Prif Noddwr
Llywodraeth Cynulliad Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru ac mae'n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r materion sy’n effeithio ar bobl Cymru o ddydd i ddydd, gan gynnwys yr economi, iechyd, addysg a llywodraeth leol. Gweinidog noddedig Cynnal Cymru-Sustain Wales yw Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai.

Ecotricity: Noddwr Premiwm
Mae Ecotricity yn gwmni trydan sy'n wahanol. Fel arloeswyr trydan gwyrdd, mae Ecotricity wedi ymrwymo i greu ffynonellau newydd o drydan adnewyddol i daclo newid hinsawdd, gan fuddsoddi mwy'r cwsmer na chyfanswm y cyflenwyr trydan eraill yn y DU. Mae newid cyflenwr yn syml a dyna'r gam fwyaf y gallwch ei gymryd i leihau'ch allyriannau ac amddiffyn yr amgylchedd.

Draig Technology Ltd.: Noddwr Gweithdy
Mae cwmni Cymraeg Draig Technology Ltd. yn ddarparwr TG o ansawdd uchel wedi seilio ar dechnolegau Microsoft. Y cwmni yw'r unig Bartner Ardystiedig Microsoft Gold yng Nghymru ar gyfer SharePoint a datblygu meddalwedd. Efallai y byddwch yn gydnabyddus o To Bach sy'n hwyluso teipio llythrennau Cymraeg, a'u gwaith gyda Bwrdd yr Iaith, Microsoft a Cymen ar fersiwn Gymraeg o Windows ac Office.

S4C am eu cefnogaeth yn ystod eu blwyddyn o raglenni Gwyrdd ym 2008.  Cadwch olwg am gyfraniadau S4C i'n rhaglen o weithgarwch yn ystod yr wythnos a chadwch olwg allan hefyd am fwletinau tywydd yn dod o'r stondin.

Rounded Developments Enterprises (RDE) Ltd. a Unique Woodworking am adeiladwaith gwych ein cartref cynaladwy a deunyddiau dehongli. Mae RDE yn gwmni dielw sydd yn hyrwyddo datblygiad cynaladwy yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth drwy weithgarwch addysgiadol, datblygu cadwyni cyflenwi a hwyluso a chynorthwyo datblygiad prosiectau.  Maent hefyd yn rhedeg unig Ganolfan Adeiladu Cynaladwy Cymru gyda phaent a deunyddiau ar gael ar-lein neu o'r Ganolfan yn Splott.

I bawb ar eBay a Freecycle am brofi gall gwastraff un person fod yn drysor i eraill! Gwelwch www.eBay.com a www.freecycle.com.

Rhoddwyd nwyddau ecogyfeillgar i'r tŷ yn garedig iawn gan Ecover y byddwn yn eu rhoi fel gwobrwyon yn ein cystadleuaeth.

Mae Innocent Smoothies wedi rhoi gwobr tuag at ein cystadleuaeth -  llond bocs o'u smwddis blasus!

Mae Clipper wedi rhoi gwobr tuag at ein cystadleuaeth - bag am fywyd yn llawn o de!

Rhoddwyd taleb yn garedig iawn gan Marks and Spencer y byddwn yn ei rhoi fel gwobr yn ein cystadleuaeth.

Llogwyd teclynnau cegin ynni effeithlon iawn am ddim er mwyn gwisgo'n stondin yn garedig iawn gan Leekes.

Rhoddwyd offer plymio ynni a dŵr effeithlon i'r ystafell ymolchi yn garedig iawn gan Brightwater.

Rhoddwyd wyneb weithio ar gyfer gwisgo'r gegin yn ein cartref cynaladwy yn garedig iawn gan Lovell's.