Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Mae'r cyfeirlyfr yn rhestr gynhwysfawr o gwmnïau, cyrff a phrosiectau sy’n cyfrannu at yr egwyddorion canlynol am ddatblygiad cynaliadwy ac yn buddsoddi ynddynt.
Os ydych chi yn fusnes, brosiect neu sefydliad sydd yn hybu datblygiad cynaliadwy mewn rhyw fodd pam na chofrestrwch chi ar y wefan hon i fwynhau hysbysiad am ddim? Bydd miloedd o ddefnyddwyr yn chwilio'r wefan bob blwyddyn felly mae'n ffordd wych o ddenu cwsmeriaid newydd.
Yn hytrach na chreu rhestr ffurfiol o feini prawf, rhaid i brosiectau eu bodloni er mwyn cofrestru yn y cyfeirlyfr, penderfynom ni egluro athroniaeth y wefan er mwyn i chi benderfynu drosoch chi’ch hun ai dyma’r lle iawn i’ch corff a phrosiect gael ei restru.
Mae cofrestru yn gyflym ac yn rhwydd. Yr hyn rydym yn ei ofyn yw eich bod yn rhannu ein hymrwymiad i'r egwyddorion, islaw:
Y 5 Egwyddor
1. Cyfle a mynediad cyfartal i bawb.
2. Ffyniant economaidd lleol a byd-eang.
3. Amgylchedd glân a llewyrchus.
4. Addysg a chyfleoedd gwaith o ansawdd da.
5. Ffyniant cymdeithasol ac iechyd da.
Mae’n rhaid i brosiectau a chyrff a restrir ar y wefan allu dangos ymrwymiad at ddatblygiad cynaliadwy yng Nghymru a chefnogaeth dros egwyddorion y cyfeirlyfr.
I sicrhau ansawdd da bydd pob cais yn mynd trwy broses o wirio gan dîm y we cyn iddynt fynd yn fyw ar y safle. Ni fyddwn yn cynnwys manylion unrhyw unigolyn neu sefydliad heb eu dealltwriaeth a chaniatâd.