»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Ein hethos

Mae popeth a wnawn ni wedi ei danategu gan ein hethos a gwerthoedd. Rydym yn gynhwysol, moesegol, democrataidd a thryloyw.

I ni, nid yw datblygiad cynaladwy yn fater i lywodraeth, busnes neu'r cyhoedd wrth eu hunain, ond un i bawb fynd i'r afael arni gyda'n gilydd.

Mae Cynnal Cymru-Sustain Wales yn gweithio ar y gyffordd o lywodraeth, busnes a chymdeithas sifil; o ddyfaliad gwleidyddol a syniadau pobl; o ddatganiadau'r pleidiau a dyheadau personol.  Mae'n bont rhwng y cyfan.

Rydym yn delio a materion o safbwynt eang datblygiad cynaladwy ac yn gweithio gydag ystod eang o fudd-ddeiliad.

Rydym yn gefnogol o weithredoedd yn enwedig rheiny bydd yn arwain at newid ymddygiad.

Rydym yn ddemocratig a thryloyw.

Rydym yn llais annibynnol sydd yn hybu llwyddiant hir dymor nid buddioldeb tymor byr.

Rydym yn gweithio ar draws Gymru ac yn dehongli materion mewn cyd-destun Gymraeg.

Rydym yn mesur ein heffeithiolrwydd.

Rydym yn lleihau effaith amgylcheddol yr hyn fyddwn yn ei wneud.

Rydym yn gweithio'n ddwyieithog.

Rydym yn annibynnol.

Mae ein ffordd o weithio'n cynnig trosolwg unigryw o gynaladwyedd yng Nghymru.