»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Ein stori

Mis Tachwedd 2000 cyhoeddwyd Cynllun datblygiad Cynaladwy cyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru, 'Dysgu Byw'n Wahanol'. Un o'r camau yn y cynllun oedd sefydlu corff annibynnol i weithio gyda'r llywodraeth i symud a llywio datblygiad cynaladwy yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2002, daeth Cynnal Cymru -Fforwm Datblygu Cynaladwy i Gymru i fodolaeth fel cynghorydd annibynnol a fforwm ar gynaladwyedd.

Mae'r cwmni mewn dyled i'r ddyletswydd a rhoddwyd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i hybu datblygiad cynaladwy. Mae'r ddyletswydd, a nodwyd o dan adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (c.38), yn mynnu bod y Cynulliad yn llunio Cynllun sy'n disgrifio sut y bwriadwn  weithredu'r ddyletswydd hon, ymgynghori cyn ei wneud, ei adolygu'n rheolaidd, cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gynnydd a gwerthuso ei effeithiolrwydd bob pedair blynedd.

Mis Mehefin 2004, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cyntaf Cynnal Cymru. Etholwyd  yn ddemocratig y Bwrdd cyntaf o Gyfarwyddwyr a diwygiwyd y Memorandwm ac Erthyglau i gynnig aelodaeth i unrhyw un yng nghymdeithas Gymraeg gyda diddordeb mewn datblygiad cynaladwy. Caiff Bwrdd o Gyfarwyddwyr newydd ei hethol gan yr aelodaeth yn y cyfarfod blynyddol.