»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Amdanom ni

Cwmni annibynnol dielw yw Cynnal Cymru-Sustain Wales sydd yn hybu datblygiad cynaliadwy a darparu gwybodaeth ymarferol i’ch helpu i fyw’n gynaliadwy.

Mae gan Cynnal Cymru rôl allweddol yn cyfathrebu a hybu datblygiad cynaliadwy ledled Cymru.

Ar y ffin rhwng llywodraeth, busnes a chymdeithas sifil, mae Cynnal Cymru mewn sefyllfa unigryw i gasglu safbwynt pob grŵp a chreu trafodaeth rhyngddynt a fydd yn arwain at gamau cadarnhaol tuag at ddatblygiad cynaliadwy.

Rheolir y cwmni gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a'u hetholwyd yn y cyfarfod blynyddol o'r a gan yr aelodaeth. Er mwyn sicrhau ystod ddigonol o arbenigedd ar y Bwrdd, etholir pedwar aelod o'r meysydd canlynol:

  • Economi
  • Cymdeithas
  • Amgylchedd
  • Datblygiad Cynaladwy

Mae Cynnal Cymru yn sefydliad dwyieithog sy'n gweithredu Polisi Iaith Gymraeg.

Rydym yn ymrwymedig i gyfleodd cyfartal. Rydym yn gwmni annibynnol dielw gyfyngedig trwy warant.