»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Ymgyrchoedd

Yn yr adran hon o’r wefan cewch wybodaeth am ein hymgyrchoedd a phrosiectau cyfoes.

 

One Pane wales

Ffyrdd o Fyw Newydd ar gyfer Cymru Un Blaned

Prosiect i gefnogi gwaith ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi datblygiad cynaladwy yng Nghymru drwy gyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd ar sut i hyrwyddo'r newid ymddygiad a dewisiadau ffyrdd o fyw sydd eu hangen i gyflawni Cymru gynaladwy.

Darllenwch mwy

Rhestr Werdd Cymru

Rhestr Werdd Cymru

Mae 52 o bencampwyr datblygu cynaliadwy wedi eu henwi ar Restr Werdd flynyddol gyntaf Cymru. Mae’r arwyr gwyrdd yn dod o Gymru benbaladr ac maent wedi eu cydnabod am gymryd camau i greu dyfodol mwy disglair i Gymru.

Darllenwch am ein 52 arwr gwyrdd

Eco Worriers

Eco Worriers - Ffilm Pen y Ffordd

Fel swyddog datblygu Cynnal Cymru-Sustain Wales, rwy wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau cymunedol sy’n ceisio datblygu ffordd fwy cynaliadwy o fyw yn rhai o’r ardaloedd o amddifadedd economaidd mwyaf yng Nghymru. Pryd bynnag rwy’n cwrdd â phobl newydd, rwy bob amser yn gofyn iddyn nhw beth yw’r ffordd orau, yn eu barn nhw, o ennyn diddordeb pobl mewn materion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy. Yr un ateb rwy’n ei gael bob tro; “dangosa bobl fel ni yn ei wneud… a gwna hynny mewn ffordd ddigri!”

Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant

Cymru o Blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant

Ledled Cymru mae pobl ysbrydolgar yn mynd i’r afael â thlodi byd-eang gan elwa o brofiadau newydd sy’n cyfoethogi’u bywydau.

Mae Cymru o blaid Affrica: Hanesion Llwyddiant yn amlygu’r prosiectau sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru gydag Affrica Is Sahara. Mae’r hanesion personol yma’n dangos effaith ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â thlodi.

Rhowch eich Newid Mân

Rhowch eich Newid Mân

Trwy gydol misoedd yr haf gwnaethom gynorthwyo pobl i ddarganfod mwy am fyw'n gynaladwy gan eu hannog i gymryd llw i fynd i'r afael â newid hinsawdd gyda'n hymgyrch, 'Rhowch Eich Newid Mân'.

Dechreuodd yr ymgyrch gyda chystadleuaeth, a oedd yn gofyn i bobl gwneud llw, yn ysgrifenedig neu drwy lun, o'r hyn y bydden nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Lansiwyd y gystadleuaeth gan dîm tywydd S4C a disgyblion Cwm Glo Cwm Gwyrdd yn ein cartref cynaladwy yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2-9 Awst 2008.

Ffilm Newid Hinsawdd

Ffilm Newid Hinsawdd

Yn 2008 roeddem yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar brosiect cyffrous iawn - ffilm ar newid hinsawdd a'r bobl ysbrydoledig sydd yn gweithio gyda'i gilydd i daclo'r broblem.

Pecyn Gweithredu yn y Gymuned.




Arolwg Byw'n Gynaladwy

Arolwg Byw'n Gynaladwy

Yn ystod haf 2007 cynhalion ni arolwg peilot i ddarganfod pa mor hawdd (neu anodd) yw hi i fyw'n gynaladwy yng Nghymru.