Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod

Ffyrdd o Fyw Newydd ar gyfer Cymru Un Blaned: Ein gwaith ar newid ymddygiad

Ym mis Mai 2009, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Chynllun Datblygu Cynaladwy o'r enw 'Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned', a chroesawodd Cynnal Cymru-Sustain Wales ei uchelgais i wneud Cymru'n genedl 'Un Blaned'. Pe bai pawb ar y ddaear yn byw fel rydyn ni'n byw yng Nghymru, fe fyddai angen adnoddau y byddai'n cymryd 2.7 planed i'w darparu. Ac mae'n glir bod yn rhaid inni newid ein ffordd o fyw'n sylweddol os ydym am gyflawni'r ein huchelgais o 'Un Blaned' i ddod yn genedl gynaladwy.
Ond sut gallwn ni lwyddo i annog digon o bobl i fabwysiadu'r syniad o newid ymddygiad anghynaladwy a gwneud dewisiadau ffordd o fyw cynaladwy?
O ystyried yr angen am newid brys, mae'n bwysig bod pawb sy'n gweithio i hyrwyddo DC yn defnyddio'r dulliau mwyaf effeithiol i ymgysylltu â phobl a chyflawni newid. I gyflawni hyn. Mae'n rhaid inni rannu ein profiadau a'n hymchwil (yn y sector ac ar draws sectorau), fel bod pawb yn gallu dysgu o gamgymeriadau a llwyddiannau ein gilydd.
Beth mae Cynnal Cymru-Sustain Wales yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn?
Rydyn ni wedi penderfynu cefnogi'r gyfnewidfa yma o wybodaeth ac arbenigedd ac, i wthio'r cwch i'r dwr, rydym wedi trefnu'r prosiectau a ganlyn:
Rydym wedi gwahodd arbenigwyr ac ymarferwyr o wahanol sefydliadau a sectorau i rannu eu barn ar y pwnc sut i ysgogi newid cymdeithasol ac annog dewisiadau ffyrdd o fyw a fydd yn cyflawni Cymru gynaladwy. Gan gyfeirio at eu profiadau a'u hymchwil eu hunain, maen nhw'n cyflwyno amrywiaeth o bersbectifau diddorol ac addysgiadol ar y pwnc.
Cynhadledd Flynyddol
Eleni, thema ein cynhadledd flynyddol oedd 'Ffyrdd o Fyw Newydd ar gyfer Cymru Un Blaned.'
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gobeithio datblygu ein gwaith ar y pwnc hwn ymhellach drwy:
Rhowch wybod inni beth yw’ch barn chi ar y pwnc hwn. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw gyfraniadau ac astudiaethau achos eraill. Anfonwch nhw i: michele@cynnalcymru.com.