»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Ffilm newid hinsawdd: WI EcoTimau

Yn ol a ffilm newid hinsawdd »

 

Sefydlwyd y fenter EcoTimau gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (WI) - Cymru mis Medi 2007 gyda’r bwriad o gynorthwyo aelodau i ddysgu sut mae eu cartrefi a’u bywyd yn effeithio ar yr hinsawdd.

Hyfforddwyd 14 aelod o’r WI fel arweinwyr EcoTimau ac meant eisoes wedi sefydlu timau yn eu hardaloedd. Meant yn grwpiau o tua 6-8 person, aelodau WI ac eraill o’u cymuned sydd yn dod at ei gilydd unwaith y mis am bedair mis i ddysgu mwy am newid hinsawdd a rhannu dulliau syml, ymarferol a hwyl i wneud eu bywydau bob dydd yn fwy cynaladwy i’r amgylchedd - wrth wneud ffrindiau ac arbed arian. Ymysg y pynciau trafod mae dŵr, ynni, gwastraff, cludiant a siopa. 

Mae Anne Jones yn rhedeg fferm wartheg yn Llanddewi Brefi ac yn arwain EcoTim o chwech: ‘I arbed ynni, ry’n ni’n defnyddio bylbiau arbed ynni a throi’r golau bant pan na fyddwn yn ei ddefnyddio. Mae’n swnio’n syml, ond pam nad ydyn ni i gyd yn neud e? Peth arall yw troi pob dim bant wrth y plyg, nid ar stand-by.  Ry’n ni hefyd yn sicrhau bod teclynnau’n defnyddion dwr yn effeithlon.’

Mae diogelu dwr yn rhywbeth rwy’n gyfarwydd â gan fod cyflenwad dwr ein hunan ganom: ‘ mae dŵr yn bwysig i’w gadw. Gallwn ni gyd droi’r tap bant wrth lanhau’n dannedd, mae’n rhyfeddod faint o ddŵr gaiff ei wastraffu o beidio.’ Mae Anne yn cymryd gofal o gadw cemegau allan o’i dwr gwastraff hefyd wrth olchi dillad, ‘rwy’n sicrhau bod y peiriant yn llawn, wrth gwrs, ond hefyd rwy’n defnyddio peli golchi yn lle sebon.’

Mae rhai camau wedi bod yn rhwyddach nac eraill: ‘Y cam rhwyddaf yw lleihau sbwriel,’ eglura Anne, ‘ ry’n ni’n pwyso’n sbwriel ac yn ceisio cynyddu beth rown ni yn y bagiau ailgylchu. Mae’n ddiddorol gweld faint mae’n pwyso a faint fedrwn ni ei leihau wrth feddwl mwy am beth rown ni yn y bag ailgylchu.’

Un o’r camau caletaf i Anne a’i EcoTim yw defnyddio llai ar y car. Fel eglura Anne: ‘Does dim ffordd mewn ardal wledig fel Llanddewi Brefi i rywun ddefnyddio cludiant cyhoeddus bob amser.’ Ond mae’r grŵp wedi cyfaddawdu. ‘Trwy rannu ceir rydym wedi lleihau ein defnydd o geir.  Mae wedi gwneud gwahaniaeth anferthol.’

Mae Anne yn hyderus y bydd aelodau ei EcoTim yn croesawi ei ffordd o fyw newydd. ‘Rydym yn gobeithio byw fel hyn nawr - bydd arbed ynni, lleihau gwastraff a phapur pacio, yn ffordd o fyw i ni. Ac rydym yn barod i’w basio ymlaen i eraill yn y gymuned leol, falle sefydlu mwy o EcoTimau.’

Mae cynlluniau Anne yn fwy hyderus fyth. ‘Un peth hoffem ni wneud, fel teulu, yw gosod cynllun hydro ar ein fferm fynydd.  Mae ganom raeadr hyfryd sydd yn ffynhonnell wych o ynni a hoffem yn y dyfodol agos ei ddatblygu i fod yn gynllun pŵer hydro.’

Ffactor allweddol yn llwyddiant prosiect EcoTimau yn nhyb Anne yw bod y grwp yn cofnodi eu canfyddiadau yn rheolaidd, yn ei galluogi i weld sut meant yn gwella. ‘Trwy edrych ar rain fedrwn weld yn rhwydd ein body n gwneud gwahaniaeth,’ meddai.

Mae wedi body n lwyddiant aruthrol. Nid yn unig ydyn ni fel tîm wedi elwa ohono, ond ein teuluoedd hefyd, meant wedi cymryd y camau ymlaen ei hunan hefyd.’ Ychwanega Anne ‘Mae llwyddiant prosiect fel hyn yn dibynnu ar ewyllys da'r aelodau sy’n cymryd rhan a’i brwdfrydedd nhw i wneud gwahaniaeth.’

Mae’r EcoTimau yn bwriadu lleihau eu holtroed carbon o leiaf 20% fel rhan o Her Garbon y WI.  Mae’r Her Garbon, a’i noddwyd gan Marks and Spencer, yn rhywbeth gall bawb fod yn rhan ohono, ac i ddweud y gwir maent eisoes wedi cyrraedd dros hanner ffordd tuag at eu nod o 10,000 cyfrannwr! Eglura Anne, ‘mae’r Her garbon yn rhwydd ymuno ynddi.  Gallwch gyfrannu ar bapur neu ar-lein. Ewch i wefan WI a chysylltu drwyddo i’r Her Garbon, atebwch y cwestiynau syml - yn onest - a chewch chi’r adroddiad.’

Mae Anne yn credu dylai pawb chwarae’i ran: Rydym yn byw mewn ardal brydferth o’r wlad ac rwyf am ei gadw ar gyfer fy mhlant a ngŵyr. Ar ddydd fel hwn gallwch weld effaith newid hinsawdd. Ni ddylai’r gwair fod mor las a’r tywydd mor braf yng nghanol mis Chwefror.  Mae’n dangos fod newid hinsawdd yn digwydd.  Rydyn ni’n ceisio gwneud ein rhan i helpu.’
‘Does dim dewis ganom, mae’n rhaid i ni wneud gwahaniaeth.  Mae pob cam bach yn mynd i wneud gwahaniaeth, nid yw gwneud dim yn opsiwn. Wedi dilyn camau’r EcoTimau rwy wedi llwyddo i wella, dwi ddim yna eto, ond mi fyddaf yn gwella!’

 

Yn ol a ffilm newid hinsawdd »