»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Ffilm newid hinsawdd: Ynni Adnewyddol Cymunedol Bro Ddyfi

Yn ol a ffilm newid hinsawdd »

 

Mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CDA) ym Machynlleth yn cynnig atebion cynaladwy i rai o’r herion mwyaf sydd yn wynebu ein planed a dynol ryw; newid hinsawdd, llygredd a gwastraff adnoddau gwerthfawr.  Maent yn arddangos ffyrdd ymarferol i fynd i’r afael a’r problemau hyn. Gan arwain drwy esiampl, mae CDA yn ceisio dangos bod byw’n gynaladwy nid yn unig yn rhwydd i’w wneud ond gall hefyd ddarparu gwell ansawdd o fyw. Mae’r arddangosfeydd yn y CDA yn mynd i'r afael a phob agwedd o fywyd bob dydd gyda phwyslais ar ynni adnewyddol, adeiladu amgylcheddol, effeithlonrwydd ynni , tyfu’n organig a charthffosiaeth.

Caiff holl ynni CDA ei greu ar y safle, nid oes cysylltiad i’r grid cenedlaethol.  Nol ym 1998, wrth i’r ganolfan dyfu, sylweddolant fod angen creu mwy o ynni. Gyda’i safle ar ochr mynydd, mewn hen chwarel lechi, ganwyd y syniad am dyrbin gwynt, ac yn hwyrach ymlaen , sefydliad Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi.

Bu Duncan Kerridge, aelod o bwyllgor rheoli Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi, yn rhan o’r prosiect ers saith mlynedd: ‘daeth y prosiect o’r gymuned. Death grwp o bobl oedd yn byw yn y dyffryn islaw i le gosodwyd y tyrbin at ei gilydd i ddatblygu prosiect ynni gwynt.’

‘Dros y blynyddoedd diwethaf mae ystod o bobl o’r gymuned leol wedi bod yn rhan, llawer ohonynt eisoes yn gweithio ym maes ynni adnewyddol, ond sawl un gyda sgiliau arall hefyd.’
Mae Judith Thornton wedi byw yn yr ardal ers with mlynedd: ‘Heb unrhyw sgiliau technegol gyda thyrbinau, fy rôl i yw gweithio ar y wefan, gweinydda, trefnu cyfarfodydd, y math yna o beth.’

‘Mae angen pobl gydag ystod eang o sgiliau,’ ychwanega Judith, ‘pobl sydd yn medru sgwennu astudiaethau dichonoldeb; cynlluniau busnes; pobl sy’n deall pethau cyfreithlon fel cytundebau cofrestru tir, trwyddedau a lesau; a hefyd pobl gyda phrofiad ym maes ynni adnewyddol.’

‘Sefydlwyd cymdeithas gan y rheiny a rhoddodd y syniad at ei gilydd ac ymunodd nifer o drigolion y dyffryn,’ eglura Duncan, ‘llwyddon ni ennill arian i wneud astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar y potensial am dyrbin wynt bach.  Yna unwaith i ni gael y golau gwyrdd, aethom ymlaen i ganfod arian ar gyfer gwariant cyfalaf y prosiect.’

Sefydlwyd cynllun rhandaliadau gan y gymdeithas ac yn gyflym iawn fe’i gordanysgrifiwyd.  Meddai Judith: ‘Roedd mwy o bobl eisiau rhandaliadau nad oedd ar gael.  Roeddem am i bawb gael o leiaf rhai ohonynt.  Ar y funud mae 70% o’r rhan ddalwyr yn byw yn ardal Bro Dyfi a’r gweddill yn dod o ledled Cymru a Lloegr hefyd.

‘Ry’n ni’n talu buddran flynyddol yn ôl faint o drydan ry’n ni wedi cynhyrchu - mae hynny’n ddibynnol ar ba mor wyntog y bu hi drwy’r flwyddyn.’

Mae’r gymuned leol yn derbyn mwy o les fyth o’r prosiect hefyd:  ‘Roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig i hyd yn oed pobl heb randaliadau i elwa hefyd,’ ychwanega Judith, ‘felly mae arian o rhai o’r rhandaliadau yn mynd tuag at y Gronfa Ynni Cymunedol i dalu am bethau fel bylbiau ynni isle a phrosiect cludiant i’r gymuned.’

Fe ddysgon ni bod marchnad gref am dyrbinau ail-law yn Nenmark, yr Iseldiroedd ar Almaen,’ meddai Duncan, ‘daethom o hyd i dyrbin 75 kilowat gyda hanes da.’

Cysylltwyd y tyrbin drwy gebl o dan y ddaear i bwynt cysylltu s’r grid. Yn syml mae ganom seren driphwynt: mae pŵer o'r tyrbin innau’n mynd i CDA pan fo’i angen, neu os nad oes ei angen yn y Ganolfan fe aiff allan i’r grid cenedlaethol. 

Fel eglura Duncan: ‘Roedd y CDA wedi gordyfu ei chyflenwad drydan ac roedd angen mwy o bŵer arni. Pe tawn ni heb sefydlu’r tyrbin byddai wedi bod angen ei chysylltu hi a’r grid i fewnforio trydan arferol.’

Yn dilyn llwyddiant y tyrbin, mae’r gymuned wedi dechrau prosiect i osod ail un.  Meddai Duncan: ‘dysgom lawer o wersi wrth wneud y prosiect cyntaf. Ond sylweddolon fod angen llawer o ymdrech ac arian i wneud prosiect bach ond mewn gwirionedd nid oes angen llawer mwy o ymdrech ac ynni i wneud prosiect fwy.’

Roedd y tyrbin cyntaf yn medru creu digon o ynni i bweru tua 20 neu 30 o dai.  Roedd safle gyda thyrbin prototeip arni, oedd hefyd wedi ei chysylltu â CDA, gyda’r posibilrwydd i gynhyrchu hyd at draean o’r galw am drydan yng nghartrefi Machynlleth. 

Ychwanega Judith: ‘Mae ganom broblem gyda newid hinsawdd ac mae rhaid i ni wneud rhywbeth amdani. Rhaid i bawb osod bylbiau ynni isel a sicrhau bod ganddynt ddigon o ynysiad ac ati. Ond byddai rhai ohonom yn hoffi helpu eraill i wneud mwy hefyd.  Dyma’r cyfle.’

‘Beth rwy’n gobeithio dangos yw ei bod hi’n bosib i bobl gymryd rheolaeth o’r sefyllfa eu hunain a chynhyrchu ei ynni nhw’i hunain, eu pŵer nhw’i hunain, bod yn rhan o’r ateb yn hytrach na rhan o’r broblem,’ ychwanega Duncan.

‘Peth allweddol i gofio yw bod rhaid body n bositif am y prosiect a chadw’n benderfynol,’ meddai Duncan, ‘dewiswch rywbeth lle gallwch weld canlyniadau yn weddol fuan ac adeiladwch ar eich llwyddiant. Pan fyddwch yn cyrraedd mae’r canlyniad yn foddhaol iawn.’

Mae Judith yn cytuno: ‘Mae’n werth o yn y diwedd, felly daliwch ati!’

 

Yn ol a ffilm newid hinsawdd »