Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Yn ol a ffilm newid hinsawdd »
Un o adeiladau cymuned gyntaf Sir Gâr i dderbyn budd drwy raglen ynni adnewyddadwy diweddaraf Asiantaeth Ynni Sir Gâr (AYSG) yw Neuadd y Dywysoges Gwenllian yng Nghydweli, gyda phaneli solar wedi eu gosod ar ei tho.
Guto Owen yw rheolwr AYSG ac fe canfododd e’r prosiect fel cyfle i ddod ag adnewyddiadau i galon y gymuned - gan ddechrau gyda solar. ‘Dyma un o’r technolegau mwyaf gweladwy, un o’r hawddaf i’w osod ac roeddem am ei arddangos, cefnogi’r neuaddau cymunedol eu hunain ac i ddangos sut mae’n gweithio. Hyd yn oed ym mis Chwefror, mae’n gweithio ar ddiwrnod heulog braf.’
Brian Rees yw cadeirydd yr ymddiriedolwyr sydd yn rheoli’r neuadd: ‘Roeddem ddigon ffodus i gael cymhorthdal i osod panel solar. Rydym yn derbyn dŵr poeth di-dâl ac mae llai o nwy yn cael ei ddefnyddio yn yr adeilad. Wrth i’r cyfleusterau gael eu defnyddio mwy bydd yr arbediad yn fwy.’
Prosiect gyda gwahaniaeth yw Neuadd y Dywysoges Gwenllian hefyd. Fel arfer, defnyddir paneli gwastad ar gyfer gwresogi dŵr, ond mae’r rhain hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer awyru’r gampfa. Gynt, bu problemau i gadw’r gampfa’n oer yn yr haf ond mae’r prosiect dyfeisgar yma yn golygu wrth iddi dwymo, mae mwy o haul i oeri’r ystafell.
Esbonia Guto: ‘Rydym wedi gosod ‘system ynni solar tiwb wedi ei wacâi,’ sydd yn darparu gwresogi ar gyfer y dŵr a rhai o’r gofynion gwresogi. Unwaith iddi gael ei osod, mae’n ddi-dâl i’w redeg wrth ichi gael ynni yn rhad ac am ddim o’r haul.’
Mae’r prosiect solar yn gam cyntaf mewn prosiect uchelgeisiol i AYSG. Maent yn bwriadu gosod cymysgedd o adnewyddiadau mewn canolfannau cymuned ar draws y wlad gan greu adeiladau di-garbon nad ydynt angen yn eu hanfod ynni o danwydd ffosil fel nwy neu lo.
Cynhaliwyd astudiaethau dichonolrwydd di-garbon mewn 30 neuadd yn y sir i benderfynu a ellid cyflawni hyn. Fel yr esbonia Guto: ‘Gallai fod yn fiomas a solar mewn un lle, gallai fod yn wynt neu hyd yn oed yn solar PV mewn safle arall, mae’n dibynnu ar y safle ei hun. Mae angen arnoch arbenigedd i’ch cynghori ar y ffordd orau o drosglwyddo cyfleuster di-garbon.
‘Rydym angen basged o dechnolegau. Rydym yn dymuno dangos nad oes angen i ni ddibynnu ar danwydd ffosil, gallwn gynhyrchu ein hynni ein hunain.’
Mae canlyniadau’r astudiaethau wedi dod ac mae Guto a’i dîm yn edrych am yr ariannu prosiect i’w gyrru ymlaen i’r cam nesaf. ‘Bydd peth ohoni yn dibynnu ar gymorthdaliadau, ond yn bwysicach fyth rydym am ddangos yr ochr fusnes hefyd. Nid yw ynni adnewyddadwy mor gostus â hynny dros oes y system ei hun. A gall hi fod yn orsaf bŵer ei hun gan gynhyrchu refeniw i’r gymuned.’
Rhian Owen ydy swyddog prosiectau cymunedol yr AYSG: ‘Ar gyfer y prosiectau solar roeddem ddigon ffodus i ddod o hyd i ddwy ffynhonnell ariannu: Gronfa Un, cronfa Ewropeaidd newydd yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Gâr a Clear Skies, o’r Adran Masnach a Diwydiant.
‘Mae’n llwyddiant mawr yn yr ystyr ei fod wedi codi ymwybyddiaeth ar draws y sir. Rydym yn derbyn galwadau ffôn wrth bobl yn gofyn i fod yn rhan o’n prosiect.’
‘Rydym yn canfod fod cymunedau’n barod yn eithaf ymwybodol a chysylltiedig,’ ychwanegodd Guto, ‘maent yn edrych am eu cyfraniad eu hun i frwydro newid hinsawdd. Rydym ni yn gweithredu fel rheolwyr prosiect.’
‘Rydym yn credu ei fod yn bwysig iawn i roi cyngor cywir a diduedd,’ meddai Rhian, ‘mae hyn yn rhoi pŵer i’r gymuned i wneud eu penderfyniadau eu hun. Rwy’n teimlo’n gryf mae’r adeiladau yma yw wir ganolbwynt y gymuned.’
Cytuna Brian: ‘Rydym yn cynnal chwaraeon, clybiau camera, gweithgareddau sgowt, dawnsfeydd a dramâu - mae nifer o bethau’n digwydd,’ meddai, ‘fel canlyniad i’n badminton ieuenctid penwythnos yma, cynrychiolwyd Cymru yn Iwerddon gan un o’n merched dan 13. Hebom ni fyddai hi wedi cael y cyfle.’
‘Ac mae’n bwysig iawn i’r bobl sy’n byw o fewn y pentref a’r trefi yma gallu fforddio rhedeg yr adeiladau,’ ychwanega Rhian, ‘un o’r ffyrdd y gallwn wneud hynny yw drwy eu helpu i dorri eu costiai ynni.’
Ailddatganodd Guto’r buddion amgylcheddol hefyd: ‘Newid hinsawdd yw y mater, mae’r wyddoniaeth yma, nid oes trafodaeth am hynny mwyach. Y peth cynhyrfus yw bod y technolegau hyn yma. Yma yn yr Asiantaeth Ynni rydym yn ceisio mynd yn syth i’r hanfod a chael y technolegau ar y ddaear, ar gyfer ein prosiectau a’r prosiectau cymunedol ei hunain ond hefyd fel arddangosfa i’r gymuned ehangach. Ac yn ei hanfod, mae’r gymuned ehangach yn golygu pob un.
Ychwanega Rhian: ‘Meddyliwch yn bositif ac os ydych wir am ei wneud, mae’r arian a’r cyngor ar gael!’