Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Yn ol a ffilm newid hinsawdd »
Pob Dydd Sul, wrth yr Afon Taf yng Nghaerdydd, mae Marchnad Glan yr Afon yn gosod ei stondinau. Roedd preswylydd lleol, Steve Garrett, yn offerynnol yn ei datblygiad, wedi ei ysbrydoli gan ei gymuned a llwyddiant marchnadoedd ffermwyr tramor: ‘Rwyf wedi byw yng Nglan yr Afon ers 13 blynedd. Rwy’n caru Glan yr Afon; mae’n gymuned amrywiol gyda gwir synnwyr o hunaniaeth. Mae ganddi enaid i mi, fy mhentref ydyw.
‘Bues i’n byw yng Nghanada am dipyn, ac yn ymglymedig mewn marchnad ffermwyr. Roeddwn eisoes wedi dymuno sefydlu un yn y DU, ond nid oedd y fath hynny o beth fel petai’n bodoli. Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio i helpu cymunedau i wneud dewisiadau, y cynnwrf o roi pŵer i bobl. Dyma le medrwn ni wneud wahaniaeth, yn gweithio yn ein hiard gefn ein hun.’
Ym 1998, bu i Steve helpu i greu Ffair Grefft a Bwyd Nadolig Glan yr Afon, gan wahodd cynhyrchwyr lleol. ‘Rwy’n credu mai’r peth iawn ar y pryd ydoedd,’ meddai Steve, ‘cawsom mwy o alwadau wrth stondinwyr, ffurfiwyd pwyllgor o bobl leol, ac, fel y dywed, tyfodd hi’n organig o’r fan.’
Am bum mlynedd roedd yn farchnad fisol, wedyn, wedi symud i’w safle newydd wrth Stadiwm y Mileniwm, o fewn blwyddyn roedd ar agor yn wythnosol.
Mae Steve nawr yn gweithio i Gymdeithas Marchnad Gymunedol Glan yr Afon. Esboniodd y buddion amgylcheddol: ‘Os cynhyrchir bwyd mor agos â phosib i’r man lle mae’n cael ei brynu, rydych wedi cymryd i ffwrdd y milltiroedd bwyd, y defnydd pacio, y rhwydwaith mewnol, yr holl egni sudd yn mynd mewn i beth tybiwn i yw profiad yr archfarchnad.
‘Mae rhai o’r rhain yn ardystiedig organig, meant oll yn defnyddio dulliau cynaladwy, gan isafu’r defnydd o wrteithiau ac yn y blaen.’ Ychwanegai Steve, ‘mae nifer o’n cwsmeriaid yn cyrraedd ar droed a nawr mae gennym stondin beiciau ar y diwedd, fel ‘valet’, wedi ei redeg gan siop beiciau lleol.’
Mae’n gwneud synnwyr economaidd hefyd, fel yr esbonia Steve, ‘rydych yn annog diwylliant o brynu’n lleol, ac o feddwl am o ble daw’r cynnyrch. Mae’n cefnogi economi amaethyddol lleol - mae marchnadoedd fel hyn yn ei wneud yn bosib i gynhyrchwyr bach sy’n defnyddio dulliau cynaladwy i oroesi.’
Problem fawr ar hyn o bryd yw diffyg cynhyrchwyr. Esbonia Steve, ‘mae cynhyrchwyr yn gallu, a dylent hwy, gwerthu’n uniongyrchol i’r cwsmer, gan osgoi’r dyn canol, cwmnïau mawr, cwmnïau rhyngwladol a’r holl strwythur yna. Rydym yn gobeithio y gall marchnadoedd fel hyn ddangos ei fod yn ffordd o wneud bywoliaeth. Gallwch ddod a chael stondin a chael adenillion teg am beth yr ydych yn ei wneud.’
Mae Steve yn hyderus fod diwylliant bwyd y DU yn newid. ‘Un o’r ffactorau allweddol am ein llwyddiant ydy’r twf mewn diddordeb y cyhoedd a’r dymuniad am fwyd lleol. Rydych yn prynu bwyd o’r ffermwr; rydych yn gwybod o ble mae’n dod. Ar ben hynny, rydych yn gwybod unwaith i chi ei flasu bod y blas yn arbennig.
‘Mae’r ymborth Prydeinig wedi bod yn gellwair ar draws Ewrop am flynyddoedd. Rydym yn ceisio newid yr arfer o feddwl os ydych ar incwm isel ni chewch yr hawl neu’r cyfle i fwyta bwyd o ansawdd dda. Nid felly y mae mewn rhannau eraill o Ewrop. Nid ydym am fod yn ddim ond lle mympwy bwyd crand, lle daw pobl gyfoethog i brynu bwyd. Mae’n farchnad amrywiol iawn a chroesawn bawb i ddod a siopa yma. Mae hynny wedi bod yn her i ni.’
Esbonia Steve: ‘Bu’r farchnad bob amser yn fwy nag ond profiad masnachol. Rydym wastad wedi bod yn ymglymedig mewn prosiectau ysgol, mewn rhedeg gweithgareddau ymestyn allan ar gyfer y bobl leol. Rwy’n credu ein bod yn un o’r ychydig farchnadoedd, yng Nghymru yn sicr, sydd wir â hyn.
‘Roeddem yn credu y byddai’n wych i gael lle ble y gallai pobl ddysgu am sut i dyfu bwyd. Felly cymeron ni dri rhandir a sefydlu Prosiect Rhandiroedd Gardd Gymunedol Glan yr Afon.’
Ann Bateman yw’r rheolwr prosiect a thiwtor ardd am ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos. Esbonia Ann: ‘Yng Nglan yr Afon mae nifer o bobl yn rhannu fflatiau heb erddi. Roedd hyn yn gyfle i dyfu llysiau iachus. Mae gennym lysiau Prydeinig a Chymreig, cennin ar hyn o bryd a chennin pedr, a blas rhyngwladol: planhigion wy, tsili a, gyda thwneli poly, llysiau mwy estron.’
‘Mae’n gymunedol iawn; hwyl fawr i ddweud y gwir. Mae pobl yn rhannu plotiau, ac wedyn yn rhannu’r cynnyrch. Rydym yn rhannu gwybodaeth hefyd, sydd yn wych oherwydd, er enghraifft, maent ar hyn o bryd yn tyfu fenugreek a methi, a chanddynt hwy gwybodaeth nad oes gennyf fi.
‘Mae yna agwedd gymdeithasol bwysig i hyn. Mae’n torri rhwystrau rhwng cymunedau. Mae gennym bobl o tua 20 o wledydd gwahanol yma.’
Pwysleisia Ann y buddion amglycheddol hefyd: ‘Mae mor bwysig y gallwch gerdded i’r safle yma. Nid ydych yn defnyddio “milltiroedd bwyd”. Os fedrwch ei dyfu fan hyn ac yn eich gardd, rydych yn lleihau’ch ôl-droed carbon. Yn ogystal â hyn, mae pobl yn gweld nad yw tyfu bwyd yn beth cymhleth, cyfriniol. Mae’n rhywbeth y gall pawb ei wneud, hyd yn oed gydag iard gefn bach.’
Ei lwyddiant? ‘Mae’r gwirfoddolwyr yn allweddol, maent yn rhoi llawer o’u hamser, nhw yw’r mentoriaid, wynebau’r ardd, maent yn wych,’ meddai Ann, ‘cawsom gefnogaeth ariannol a chefnogaeth arall gan Amgylchedd Cymru hefyd, maent wedi bod yn wych. Rydym yn gweithredu’n lleol, yn sicr, ac rydym yn fyd-eang hefyd, yn ein hamrywiaeth!