»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Eco Worriers - Ffilm Pen y Ffordd

Fel swyddog datblygu Cynnal Cymru-Sustain Wales, rwy wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau cymunedol sy’n ceisio datblygu ffordd fwy cynaliadwy o fyw yn rhai o’r ardaloedd o amddifadedd economaidd mwyaf yng Nghymru. Pryd bynnag rwy’n cwrdd â phobl newydd, rwy bob amser yn gofyn iddyn nhw beth yw’r ffordd orau, yn eu barn nhw, o ennyn diddordeb pobl mewn materion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy. Yr un ateb rwy’n ei gael bob tro; “dangosa bobl fel ni yn ei wneud… a gwna hynny mewn ffordd ddigri!”

Gyda help gan gyfeillion ym myd teledu, Dafydd Palfrey a Boyd Clack, a gyda chymorth Cynnal Cymru, penderfynais i wneud ffilm a fyddai’n dathlu beth mae pobl go iawn yn ei wneud, a hefyd yn gwneud i’r gwylwyr chwerthin. Y canlyniad yw pennod beilot ddeng munud o ‘Eco Worriers’, y gallwch ei gwylio drwy glicio ar y ddolen isod:

 


Eco-Worriers: Episode 1 from Daf Palfrey on Vimeo.

 

Mae’r ffilm yn dangos dau brosiect cymunedol; Gardd Gymunedol Sarn Helen, Banwen a Phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Tri Yn Un, Aberpennar. Gallwch ddarllen rhagor am y prosiectau hyn yn isod:

Tri Yn Un

- Gwyliwch 'Saplings' (Saesneg yn unig)

- Lawrlwytho'r pdf

 

Dulas Opportunity for Voluntary Enterprise - DOVE

- Lawrlwytho'r pdf

 

Hoffem wneud mwy o benodau ac ymweld â rhagor o brosiectau cymunedol a gweld y cymeriadau’n brwydro i roi’r gorau i’r car a defnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth i deithio o gwmpas. Rydym yn ymwybodol o’r effeithiau sylweddol mae ffilmio’n eu cael ar yr amgylchedd, felly hoffem hefyd ymchwilio i’r dewisiadau o ran ‘gwneud ffilmiau mewn ffordd werdd’ a cheisio gweithio gan gael yr effeithiau lleiaf posibl ar yr amgylchedd.

Mae Cynnal Cymru-Sustain Wales yn gweithredu polisi dwyieithog. Rydym yn bwriadu ddatblygu prosiectau Cymraeg ar wahân a fydd yn ategu ‘Eco Worriers’.

Rhodri Thomas
Swyddog Datblygu

 

Canmol am Eco Worriers

“Nothing if not brilliant - best eco-film I've seen, and I've seen a few. The carbon trading scene is classic! More please...”
Ken Moon, Cylch - Wales Community Recycling Network.

“Well done - really good to see SD explained in this fun, funny, accessible format. This is so needed - something people can actually relate to.”
Audrey Healy, Sustainable Bristol City Region Project.

“The film was fantastic!! Everyone up here is really chuffed.”
Andrew Roberts, Tri Yn Un Community Project.

“Just watched this and haven't stopped laughing yet. Really enjoyed it but the message is also clear and strong. I am looking forward to Episode Two.”
Prof. Dave Adamson, University of Glamorgan.

“I think that is brilliant , exactly the sort of thing that is needed”
Dr Stuart Jones , Programme for Community Regeneration, University of Glamorgan.

“An excellent way to get the message across.”
Dave Lewis, Community Environments Director, Groundwork RCT Merthyr.

“Absolutely awesome!!! If that doesn't communicate with people, nothing will! I've got tears of laughter running down my face!”
Dean Cawsey, Communities First Co-ordinator, Cwmdulais Uchaf.

“Brilliant! It really made me laugh and made some great points especially about trees. Those guys need to have a prime time slot.”
Ru Hartwell, Treeflights.