Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod

Eisteddfod 2010
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mlaenau Gwent rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.
Mae cynllun mynediad di-dâl ar gyfer Dydd Sul 1 Awst i roi blas o’r Eisteddfod i bobl. Gall pobl leol Blaenau Gwent yn cael y cyfle cyntaf i apelio am docynnau di-dâl i’r Maes
Gall pobl leol Blaenau Gwent nawr apelio am docynnau di-dâl, a gall pobl ledled Cymru geisio am docynnau di-dâl o 1 Mai ymlaen. Bydd tocynnau ar gael drwy ffonio 08454 090 300 neu 08454 090 400 neu drwy wefan yr Eisteddfod - www.eisteddfod.org.uk.
Os ydych yn bwriadu cael stondin yn yr Eisteddfod, edrychwch ar Ganllaw Digwyddiadau Every Action Counts lle gallwch gael cyngor ar sut i sicrhau eich bod yn gwneud y trawiad lleiaf posib ar yr amgylchedd
Bydd gan Cynnal Cymru stondin ar faes yr Eisteddfod, gyda’n harddangosfa ffotograffau poblogaidd o Arwyr Gwyrdd Cymru. Felly os nad ydych wedi cael cyfle i weld yr arddangosfa mewn lleoliad agos atoch chi – dyma’ch cyfle i’w weld!
Bydd croeso i bawb i alw fewn a gweld yr arddangosfa, a chael sgwrs a phaned! Bydd ein staff cyfeillgar ar gael drwy’r wythnos i drafod Cynnal Cymru yn ogystal â’r ffotograffau.
Eisteddfod 2009
Yn 2009 aethom â’n cartref cynaladwy i Eisteddfod y Bala, Gwynedd. Roedd y stondin yn llawn tipiau i helpu pobl i fyw’n fwy cynaladwy, ac wedi ei addurno gyda dodrefn wedi’i ailgylchu, nwyddau moesegol, diodydd a grawnfwydydd masnach deg a glanhawyr naturiol.

Roedd gennym raglen o weithdai cyson, oedd yn golygu y gallai pobl galw mewn pan roeddynt yn dewis ar gyfer sgwrs a phaned. Seliwyd y gweithdai ar dipiau i helpu pobl i fyw’n fwy cynaladwy adref - ymysg rhain roedd cyngor ar drwsio dillad, compostio cartref a sut i gynllunio ymgyrch.
Yn ystod Eisteddfod y Bala gwnaethom hefyd redeg ein cystadleuaeth, ‘Rhowch Eich Newid Mân,’ ac roeddem yn gofyn i bobl gwneud llw i helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd. Roedd llw Carrie John wedi gwneud argraff ar y barnwyr, a hithau enillodd yr Hwrdd Siglo Ddu Gymreig a roddwyd yn garedig gan y Rocking Sheep Company.
Lawrlwythwch "Cymru yn 2050: Golwg o'r Dyfodol"
Trafodaeth gan Morgan Parry
Eisteddfod 2008
Roedd Cynnal Cymru-Sustain Wales yn eu cartref cynaladwy ar faes yr Eisteddfod i ddangos pa mor rhwydd gall hi fod i fyw'n gynaladwy, gyda chyngor 'gwyrdd' a moesegol. Diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Ecotricity, Draig Technology, Ecover, Innocent Smoothies a llu o noddwyr eraill roedd y stondin yn gwmws fel cartref go iawn - gyda gardd a phob dim!
Wedi ei adeiladu o bren FSC, roedd yn arddangos nodweddion megis insiwleiddio ac roedd y tu fewn yn llawn syniadau ysbrydoledig i'ch helpu i wneud dewisiadau cynaladwy o fasnach deg ac organig i gyngor arbed ynni a dŵr.
Lansiwyd y gystadleuaeth, 'Rowch Eich Newid Mân' yn ystod yr Eisteddfod, a gwnaeth un enillydd lwcus ennill blwyddyn o ynni 'gwyrdd'. Gyda gwesteion i de, cerddoriaeth, a gweithdai ymarferol roedd digon i’w wneud ac nid oedd angen cadw lle o flaen llaw.