Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod

52 o Arwyr Gwyrdd ar Restr Werdd Cymru 2009
Mae 52 o bencampwyr datblygu cynaliadwy wedi eu henwi ar Restr Werdd flynyddol gyntaf Cymru. Mae’r arwyr gwyrdd yn dod o Gymru benbaladr ac maent wedi eu cydnabod am gymryd camau i greu dyfodol mwy disglair i Gymru.
Mae Rhestr Werdd Cymru yn dathlu unigolion sy’n gwneud Cymru yn lle gwell a mwy cynaliadwy i fyw. Dyma’r rhestr gyntaf o’i math yng Nghymru ac mae hi’n dod ag elfennau gwahanol datblygu cynaliadwy – yr amgylchedd, yr economi a’r gymdeithas - at ei gilydd mewn un wobr.
Mae’r rhestr, a roddwyd at ei gilydd gan Cynnal Cymru – Sustain Wales, yn dangos nad yw arwyr gwyrdd bellach wedi eu cyfyngu i stereoteipiau o amgylcheddwyr, ond eu bod lawn mor hawdd yn gallu bod yn bobl gyffredin o unrhyw gefndir, sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu ffordd eu hunain.
Cafodd arddangosfa o bortreadau ffotograffau o 21 o arwyr gwyrdd oddi ar Restr Werdd Cymru ei lansio ar 19 Hydref 2009 cyn mynd ar daith drwy leoliadau ar hyd a lled Cymru, gyda ffilm o’r 21 arwr gwyrdd.
Cyn y lansiad Cymreig yma, aeth Cynnal Cymru - Sustain Wales â’r arddangosfa ffotograffig yma i Ŵyl Werin y Smithsonian yn Washington D.C. i godi ymwybyddiaeth o’r nifer o brosiectau arloesol a chyffrous sy’n digwydd yng Nghymru.
Wedi eu cynnwys ar Restr Werdd Cymru 2009 y mae prif weithredwyr cwmnïau preifat, rheolwyr gyfarwyddwyr BBaChau, gwleidyddion, rhieni, ymgyrchwyr, beirdd, cerddorion a llawer mwy. Ymysg yr enwau cyfarwydd ar y rhestr mae Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai a Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru.
Yn siarad mewn dathliad yn y Senedd neithiwr (19 Hydref 2009), dywedodd Helen Nelson, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru - Sustain Wales:
“Dyma’r tro cyntaf i Restr Werdd Cymru gael ei chasglu, ac amlygu ymdrechion gwych rhai o’n harwyr anenwog sy’n helpu i greu dyfodol mwy disglair i Gymru.
“Mae gan bob un person ar y rhestr yma hanes llawn ysbrydoliaeth i’w ddweud ac rwy’n sicr y bydd eu hymdrechion yn ysbrydoli eraill i weithredu hefyd.”
Roedd panel, a gynrychiolai fyd busnes, y cyfryngau, y sector wirfoddol a datblygu cynaliadwy (Mike Batt, Yr Ymddiriedolaeth Garbon; Chris Kelsey, Cyfryngu Cymru; Peter Davies, Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy; Clare Sain-Ley-Berry, Amgylchedd Cymru; Richard Jarvis, a Helen Nelson, Cynnal Cymru - Sustain Wales) yn dewis yr enghreifftiau gorau o ddatblygu cynaliadwy o blith nifer o enwebiadau a ddaeth i law gan aelodau o’r cyhoedd.
Darllenwch am ein 52 arwr gwyrdd
Mae Rhestr Werdd Cymru a’r arddangosfa luniau yn dathlu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled Cymru. Dewch i gael eich ysbrydoli gan y bobl sy’n gweithredu er mwyn creu Cymru gynaliadwy.
Dyddiadau Taith Rhestr Werdd Cymru
Tachwedd 2009
- EcoDysgu, Pen-y-bont ar Ogwr
- Taith Yma i Chi y BBC, Pwllheli
Rhagfyr 2009
- Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Castell-nedd Port Talbot
- Venue Cymru, Llandudno
Ionawr 2010
- Trerhondda (Ffatri Gelfyddydau), Glynrhedynog, Y Rhondda
Chwefror 2010
- Canolfan Gymunedol Fernhill, Aberpennar
Mawrth 2010
- Partneriaeth Amgylcheddol Sir Gâr, Sir Gâr
- Caffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth
Ebrill 2010
- Theatr Mwldan, Aberteifi
- Y Galeri, Caernarfon
Mai 2010
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Mehefin 2010
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gâr
Gorffennaf 2010
- Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Aberhonddu
Awst 2010
- Eisteddfod Genedlaethol, Blaenau Gwent
Medi 2010
- Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd
Mae rhai lleoliadau yn destun cadarnhad terfynol. Ychwanegir dyddiadau taith ychwanegol o ganlyniad i’r galw. Gwiriwch ein gwefan am fwy o fanylion. www.cynnalcymru.com
Cefnogwyd gan:
