Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Yn ddiweddar cyflwynwyd gan Cynnal Cymru-Sustain Wales adroddiad drafft i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y Cynllun Datblygiad Cynaladwy a’r Cynllun Gweithredu. Prif ffocws yr adroddiad yw edrych ymlaen at y 4 blynedd nesaf a thu hwnt at ba weithred y gall LlCC (ac eraill) ei gymryd i yrru’r agenda DC ymlaen yng Nghymru.
Ein nod oedd casglu tystiolaeth wrth gymdeithas sifil i oleuo’r adolygiad a’r ailwneuthuriad o’r Cynllun Datblygiad Cynaladwy a’r Cynllun Gweithredu yn 2008 mewn modd byddai hefyd yn cynnwys ystod eang o fudd-ddeiliaid mewn trafodaeth ac ymddiddan ar ddatblygiad cynaladwy.
Er mwyn casglu tystiolaeth, gwnaethom ddylunio rhaglen treigl o ddigwyddiadau, rhwng 2005 a 2007, fyddai’n ymestyn allan at y cynulleidfaoedd gwybodus yma. Edrychom ar ddimensiynau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol datblygiad cynaladwy a thueddiadau a heriau newydd a wynebau Cymru a gofynnwyd i fudd-ddeiliaid ystyried y canlynol:
• Beth yw’r ardaloedd allweddol o ddatblygiad arloesol i gataleiddio newid-cam ar gyfer DC?
• Pa bolisïau ac ymarferion sy’n gweithio’n dda?
• Beth sydd ddim yn gweithio’n dda a ble mae angen mwy o waith?
• Beth yw’r dewis o ddulliau polisi i drosglwyddo DC?
• Sut gall LlCC alluogi eraill?
Dyluniwyd y gwaith blaenweithgar yma i oleuo llunio-polisi LlCC yn gynnar, wrth roi cyfle i gymdeithas sifil i godi pryderon yn hytrach nag ond ymateb i agenda oedd yn barod wedi ei osod gan LlCC neu gyrff eraill.
Pennawd yr adroddiad yw “Trawsffurfio Cenedl”, gan adlewyrchu’r newid radical sydd ei hangen. Cynhwysir yn yr adroddiad syniadau ac argymhellion ar gyfer trawsnewid Cymru i fod yn wlad carbon-isel, gwastraff-isel sy’n chwarae ei rhan yn yr ymdrech byd-eang i fyw o fewn ffiniau amgylcheddol a sicrhau cymdeithas gref, iachus a theg ar gyfer cenedlaethau cyfoes a’r dyfodol.
Bydd fersiwn llawn o’r adroddiad ar gael i’w lawr-lwytho’n fuan o’r wefan yma.