Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Haf llynedd, yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, gwnaethom arolwg peilot i ddarganfod pa mor hawdd neu anodd yw hi i fyw’n gynaladwy yng Nghymru.
Cymerwyd rhan yn yr arolwg gan 174 o bobl dros bedwar diwrnod, ac archwiliwyd deg maes o gynaladwyedd gan gynnwys teithio, egni, siopa a’r amgylchedd naturiol.
Dywedodd 81% o atebwyr nad oedd digon o gyfleodd a chyfleusterau i’w helpu i fyw’n gynaladwy yng Nghymru.
Gyda’r nifer o bobl a gymerodd rhan yn yr arolwg, ni chawsom sampl digon eang i fod yn ystadegol ddilys ond, er hynny, mae hwn yn arwydd cychwynnol pwysig fod nifer o bobl yn credu nad oes digon o gyfleodd i’w galluogi hwy i wneud y dewisiadau cynaladwy - e.e. cael bwyd lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, ac ailgylchu.
Gyda mwyfwy o bwyslais yn cael ei roi ar yr angen i bobl ‘wneud eu rhan hwy’, dengys yr ymchwil yma y gallem ni fod yn gofyn i bobl wneud pethau nad ydynt yn bosib lle maent hwy’n byw. Fodd bynnag, gydag ymchwil pellach, efallai i ni ddarganfod mai’r broblem yw diffyg ymwybyddiaeth am wasanaethau mewn rhannau o Gymru.
Eleni, bydd Cynnal Cymru-Sustain Wales yn gwneud fersiwn Cymru-lydan o’r arolwg, a hefyd yn ymchwilio i’r gwasanaethau sydd ar gael ar draws Cymru, gan ein galluogi i wybod pa mor hawdd neu anodd yw hi mewn gwirionedd i fyw’n gynaladwy mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.