Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Ubuntu!
Plant y Cymoedd– Cape Town - Pontypridd
“Rydyn ni wedi galw’n cyswllt â De Affrica yn Ubuntu! Yn fras, ystyr hyn yn iaith Affrica yw ‘dynoliaeth’ neu ‘rydyn ni’r hyn ydyn ni oherwydd yr hyn ydyn ni i gyd’. Mewn geiriau eraill, rydyn ni i gyd yn gysylltiedig.”
Mae Denise Lord yn fenyw ryfeddol sy’n angerddol dros gysylltu pobl ifanc anfodlon mewn dwy gymuned wahanol iawn ond trawiadol o debyg – hen gymoedd glofaol De Cymru a Langa, treflan yn Cape Town, De Affrica. Denise yw Cydlynydd Datblygu Plant y Cymoedd, elusen sy’n gweithio â phlant a theuluoedd difreintiedig.
“Dechreuodd y cyfan pan gwrddais i â band o Cape Town o’r enw Amampondo yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu,” meddai. Xhosa (llwyth Nelson Mandela) ydyn nhw, ac maen nhw’n defnyddio caneuon a dawnsfeydd sy’n ymwneud â’u traddodiadau llwythol.” Gwelodd Denise ar unwaith y gallai cerddorion hynod o dalentog ac ysbrydoledig Amampondo gynnig cyfraniad arbennig i Blant y Cymoedd.
Yn yr ardal hon yn Ne Cymru mae pobl anfodlon yn wynebu pwysau negyddol gan eu cyfoedion o ran cyffuriau, alcohol a beichiogrwydd cynnar ac anactifedd economaidd. Mae tlodi dyheadau yn gwenwyno bywydau pobl. Mae Amampondo yn hanu o Langa yn yr hemisffer arall, ac mae’r ardal hefyd yn gymuned lofaol, er bod ganddi lefelau gwahanol o galedi a thlodi. Langa yw un o’r treflannau hynaf yn Cape Town, lle mae pobl yn byw mewn cabanau sydd wedi’u hoelio at ei gilydd o ddeunyddiau sydd wedi’u canfod.
Mae Plant y Cymoedd wedi ymrwymo i ddatblygu cyswllt â phobl Langa fydd yn fanteisiol i bawb, ac sy’n cynnwys cyfnewid gweithwyr datblygu, gwirfoddolwyr a phobl ifanc, gyda’r nod o greu partneriaeth gefnogol, amlddiwylliannol fydd yn cyfoethogi pawb. Mae’r ddau grŵp yn defnyddio’r celfyddydau i ennyn diddordeb pobl ifanc a’u hannog i newid eu canfyddiad o bwy ydyn nhw.
“Gyda chymorth Barclays fe drefnon ni weithdai a gigs ym mhob un o’n canolfannau, sydd wedi’u lleoli mewn cymunedau difreintiedig iawn,” medd Denise. “Bu aelodau Amampondo yn siarad am eu hamgylchiadau gartref a’r hyn maen nhw’n ceisio’i gyflawni. Dysgodd y plant ganeuon Affricanaidd traddodiadol gan gynnwys anthem genedlaethol Affrica Nkosi Sikelel' iAfrika a dawnsfeydd Llwythol traddodiadol gwych o Affrica.”
Mae un plentyn, Craig Cox o Rydyfelin, wedi cymryd rhan yn y gweithdai bob tro. Mae wedi bod yn dod i weithgareddau Plant y Cymoedd ers iddo fod yn 8 oed (mae’n 14 erbyn hyn) fel rhan o’n tîm Gwaith Celf, yn cymryd rhan mewn drama a theatr. O ganlyniad mae wedi ennill hyder ac mae’n angerddol ynglŷn ag Affrica.
Yn agoriad Canolfan Soar Penygraig yn 2006, perfformiodd Amampondo gyda Phlant y Cymoedd mewn dathliad amlddiwylliannol. Darllenodd un ohonynt lythyr o ewyllys da oddi wrth yr Archesgob Desmond Tutu:
“Mae Cymru wedi’i bendithio â chyrff fel Plant y Cymoedd, sy’n gwybod pa mor werthfawr yw plant, ac sy’n bodoli i’w hannog nhw i dyfu, i gerdded yn dal ac ymdrechu i fod yn bobl brydferth fel y bwriadodd Duw iddynt fod. Rwy’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd eich plant yn cysylltu â ni: aur o Gymru a diemwntau o Affrica.”
Rhoddwyd hwb i’r berthynas pan ddyfarnodd menter cysylltu Seren Aur Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyllid i Blant y Cymoedd a ganiataodd i Denise a Roger Wilcox, gweithiwr ieuenctid gyda Phlant y Cymoedd, fynd i Langa yn 2007. “Roedd yn gyfle gwych,” meddai Denise. “Gwnaeth y profiad i mi sylweddoli pa mor ffodus yw ein plant ni mewn ffordd a faint mwy sydd ei angen draw yno.”
Mewn tair sefyllfa wahanol, gwelodd Denise a Roger sut mae dawns yn gwella hunan-barch pobl ifanc. Gwelon nhw blant y treflannau’n ymarfer bale mewn canolfan newydd, llawn cyfarpar fel rhan o’r Prosiect Dawns i Bawb yn Athlone; plant yn dysgu dawnsio ballroom mewn canolfan gymunedol yn Mfuleni, sy’n dreflan dlawd; a “mewn tywyllwch dudew ar ofod lleidiog yng nghanol cabanau yn Langa, grŵp o blant yn ymarfer hip-hop ar eu liwt eu hunain,” medd Denise.
Cafodd yr egni cadarnhaol hwn, yng nghanol y tlodi, ansicrwydd a thrais argraff fawr arni. "Mae’n gwneud i chi gwestiynu eich holl gyfundrefn o werthoedd. Y gymdeithas ddefnyddwyr - rydyn ni i gyd yn gaeth iddi. Mae hyn yn sicr yn wir am blant y Cymoedd. Er eu bod nhw’n ‘ddifreintiedig’ ac yn wynebu heriau a phroblemau enfawr yn eu bywydau, mae llawer ohonyn nhw’n meddu ar y pethau sy’n bwysig yn ein cymdeithas faterol fel ffônau symudol, teledu lloeren a phethau na all yr Affricaniaid hyn ond breuddwydio amdanyn nhw. Mae gan y plant hynny lawer llai ond maen nhw i’w gweld yn hapusach."
Pam? Awgryma Denise, “Dydyn ni ddim yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gennyn ni a’r hyn sydd ar goll yn ein bywydau. Dyw tyfu i fyny yn y Cymoedd ddim yn hawdd. Ein rôl ni yw newid y canfyddiadau negyddol sydd gan bobl ohonyn nhw eu hunain a cheisio rhoi ymdeimlad o hyder a hunanwerth i’n plant, sydd yn aml yn anfodlon ac yn triwanta o’r ysgol. Yn Langa maen nhw wir yn gwerthfawrogi addysg ac yn gweithio’n galed er mwyn gallu mynd i’r ysgol - maen nhw ar dân i’w gwella eu hunain. Er gwaethaf eu hamgylchiadau byw arswydus, maen nhw’n dal ati, ac maen nhw i’w gweld yn fwy hapus a llawen.” Gobaith Plant y Cymoedd yw harneisio rhywfaint o’u hysbryd nhw.
Mae’n amlwg fod Denise yn angerddol dros weledigaeth Plant y Cymoedd: ‘dathliad o lwyddiannau unigolion a chymunedau sydd, drwy roi cynnig ar wahanol weithgareddau a chael profiadau gwahanol, yn ehangu eu gorwelion ac yn cyflawni eu potensial.’
“Rwy’n credu fod y prosiect partneriaeth hwn rhwng Langa a’r Rhondda yn ffordd ddelfrydol o gyflawni hyn,” dywed Denise. “Mae’n cynnig cyfle unigryw i unigolion yn y ddwy gymuned dyfu a dysgu gyda’i gilydd ac mae’n rhoi’r cyfle i ni ddarganfod ysbryd Ubuntu,” gorffenna Denise. “Beth am i ni ddathlu ein gwahaniaethau a rhannu’r hyn sy’n gyffredin.”
Dysgwch fwy yn www.valleyskids.org.
Blaenorol: Travelodge Caerdydd Sut i Ffrwythloni Buwch
Nesaf: Pan fo’r Gymuned yn Mynd ati i Ralïo