»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Rhowch Eich Newid Man

Manylion y gystadleuaeth

Dylai’ch cais ddangs pa newid m â n y byddwch chi’n ei wneud yn eich bywyd bob dydd, fel cartref neu deulu, a sut y bydd hyn yn helpu i daclo newid hinsawdd.

Gall eich cais fod mewn geiriau neu lun; mae lan i chi sut fyddwch chi’n ei gyflwyno. I ddweud y gwir, croesawn ceisiadau creadigol! Gall hyn gynnwys lluniau electronig, a llaw, ffotograff, wedi paentio, du a gwyn neu liwgar (dim ond ei fod yn bosib i ni eu ail-greu e.e. ei sganio a’i safio’n electronig).

Defnyddir ceisiadau ar gyfer deunyddau cyhoeddusrwydd i annog cartrefi i fynd ar waith i daclo newid hinsawdd fel ran o ymgyrch Cynnal Cymru-Sustain Wales ‘ Rhowch Eich Newid Mân’.

 

 

Manylion y gwobrau

Bydd un enillydd yn ennill y brif wobr ‘Rhowch Eich Newid Mân’ o flwyddyn o drydan am ddim gan Ecotricity (werth £400).

Bydd 3 enillydd arall yn ennill gwobrau o’r gronfa wobrau: nwyddau cartref Ecover, taleb gan Innocent Smoothies, pecyn te a choffi Clipper, crys-T arth solar People Tree, taleb Shared Earth, taleb Marks and Spencer, bag mini saws tomato.

Mae Cynnal Cymru-Sustain Wales yn gwerthfawrogi cefnogaeth ei holl noddwyr am y rhoddion yma.

Nol i'r hafan