Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Hanes
Mae'r syniad o gael y wefan wedi bod o gwmpas ers tua tair blynedd. Fe'i ddatblygwyd yn gyntaf rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Cymru Ar-lein, Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fforwm Datblygu Cynaladwy i Gymru cynnar (sef Cynnal Cymru nawr). Ei bwrpas yw i dynnu at ei gilydd mewn un lle yr holl unigolion, sefydliadau a busnesau sydd yn helpu i wneud datblygu cynaladwy yn wirionedd yng Nghymru.
Beth yw'r pwrpas?
I gynnig siop-un-stop i bobl Cymru pan fyddant angen gwybodaeth ar gynnyrch neu wasanaethau i'w helpu i fyw, gweithio, siopa neu fwynhau ei hunan yn foesol, cynaladwy ac yn galonogol 'wyrdd'. Gyda chymaint o bethau gwych yn mynd ymlaen yng Nghymru gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau ar adegau.
Beth sydd mor dda amdano?
Nodwedd unigryw o'r wefan hon yw ei fod heb wedi ei ddylunio gyda defnyddwyr yn unig mewn golwg ond hefyd ymarferwyr, pobl broffesiynol neu bobl gyda syniadau gwych sydd angen help i ddechrau. Mae'r wefan yn ffordd wych i ddod mewn cysylltiad gyda phobl eraill yn y maes y gallant eich helpu.
Mae hefyd yn ymestyn ledled datblygiad cynaladwy i gyd, y gorau y gall wneud, ac yn gwneud hyn ledled Cymru.
Dysgu mwy am ddatblygiad cynaladwy
Sut mae'n gweithio?
Mae'r wefan yn defnyddio technoleg "Geographical Information Systems" (GIS) i blotio gweithgarwch datblygu cynaladwy ar draws map o Gymru a gall y map hyn gael ei chwilio yn ôl côd-post neu y math o weithgaredd. Mae gan pob math o weithgaredd eicon ei hunan.
Mae'r wefan hefyd yn arddangos 'Astudiaethau Achos' sef rhai enghreifftiau da o brosiectau rydym yn goleubwyntio bob hyn i hyn. Gall unrhywun wneud cais i fod yn astudiaeth achos.
Ein Cefnogwyr
Datblygwyd y wefan hon gan Fwrdd Prosiect yn cynnwys cynrychiolwyr o Cynnal Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill. Mae Cynnal Cymru yn rheoli'r prosiect ar ran y Bwrdd yma.
Ymgyrchion
Mae'r wefan wedi ei gysylltu'n agos gyda grwp ymgyrchu Cymru Gynaladwy a'i gychwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2004 i hybu a chyfathrebu datblygiad cynaladwy i'r cyhoedd. Mae aelodaeth y grwp yn cynnwys nifer o sefydliadau o tu allan i'r Llywodraeth er enghraifft Oxfam Cymru, RSPB Cymru, WWF Cymru, a nifer mwy ynghyd â Cynnal Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cadwch lygad allan am ei hymgyrchion nhw ar y wefan hon o bryd i'w gilydd.
Cysylltu
Byddem yn falch iawn i glywed eich awgrymiadau am sut i fynd ymlaen gyda'r wefan hon yn y dyfodol ac am unrhyw syniadau sydd gennych i'w wella. Ewch at ein dudalen cysylltwch â ni am fanylion.