»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Canllaw i'r pynciau

Ynni

Yng ngoleuni newid yn yr hinsawdd, mae effeithlonrwydd ynni a ffurfiau adnewyddadwy o ynni’n fwyfwy pwysig i ddiwallu’n gofynion cynyddol.

 

Amgylchedd Naturiol

Mae angen diogelu a magu’n fflora a’n ffawna brodorol ar gyfer ein mwynhad ni a mwynhad cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd a’r tirlun y maen nhw’n byw arno.

 

Ailgylchu a Gwastraff

Ar y gyfradd rydyn ni’n defnyddio pethau yn y byd gorllewinol, mae’n bwysig yr ailgylchir gwastraff er mwyn osgoi ei anfon i’w dirlenwi, lle mae’n bosib na fydd yn malurio am gannoedd o flynyddoedd. Yn aml mae modd ailddefnyddio’r pethau rydyn ni’n taflu i ffwrdd ar gyfer rhywbeth arall. Cofiwch: lleihewch, ailddefnyddiwch, atgyweiriwch ac ailgylchwch.

 

Adeiladu

Mae galw cynyddol yn y diwydiant adeiladu i gael ffyrdd newydd o ddefnyddio dulliau a deunyddiau mwy cynaladwy sy’n lleihau eu heffaith ar y blaned.

 

Iechyd

Mae cynnal ein pobl llawn mor bwysig â chynnal yr amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo! Mae llawer o brosiectau a mentrau i’n hannog i aros yn iach ac yn ffit ac i roi cyngor da.

 

Bwyd a Diod

Sut cafodd ei dyfu, sut cafodd ei fasnachu, pa mor bell mae wedi teithio – mae llawer mwy am fwyd a diod na’r blas yn unig, er enghraifft bwyd organig, masnach deg, a ffres a thymhorol, iach i enwi ychydig yn unig.

 

Amaethyddiaeth

Mae llawer o gymunedau gwledig Cymru’n ddibynnol iawn ar amaethyddiaeth a chyda’r economi a’r hinsawdd newidiol, mae’r diwydiant yn ymgymryd â llawer o newidiadau tuag at amaethyddiaeth fwy cynaladwy er enghraifft trwy gynlluniau grant newydd.

 

Coetiroedd

Mae’n coetiroedd yn rhan o’n treftadaeth. Mae angen i ni eu cynnal ar gyfer ein mwynhad ni, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac ar gyfer yr ecosystemau maen nhw’n eu cefnogi. Bellach rheolir llawer o ardaloedd coetir Cymru’n gynaladwy.

 

Garddio a Rhandiroedd

Mae tyfu’ch rhai’ch hun yn ffordd gyflym a hawdd o gael eich ffrwythau a llysiau ffres a rhad. Os nad oes gardd gennych mae rhandir yn ddewis arall delfrydol.

 

Cartref a Siopa

Mae’r ffordd rydyn ni’n siopa a faint rydyn ni’n ei brynu’n cael sawl goblygiad i gynaladwyedd. Dylen ni i gyd ystyried o ble mae’n nwyddau wedi dod, yr hyn y maen nhw wedi’i wneud ohono, faint o becynnau sydd ac a ellir ei ailgylchu.

 

Cymuned

Cymunedau cynaladwy yw asgwrn cefn cenedl gynaladwy. Mae llawer o gymunedau Cymreig yn gweithio’n galed i greu lleoedd gwell i’w trigolion.

 

Cyfiawnder Cymdeithasol

Seilir cynaladwyedd ar y cred bod gan bawb ei ran i’w chwarae a’i gyfraniad i’w wneud at greu cymdeithas gynhwysol gyda chyfle cyfartal a gwaredu tlodi unwaith ac am byth.

 

Diwylliant ac Iaith

Gallwn fod yn falch o’n hunaniaeth ddiwylliannol ein hun tra croesawu’r gwahaniaethau a’r pethau tebyg rhyngom yn y genedl amrywiaethol rydyn ni’n dod ynddi’n gyflym.

 

Economi ac Arian

Mae sefydlogrwydd economaidd yn hollbwysig i gynaladwyedd ac fe’i ystyrir yn un o’r tri phrif gonglfaen at ddatblygiad cynaladwy, yn ogystal â’r amgylchedd a chymdeithas.

 

Twristiaeth a Hamdden

Cewch amser gwych ar eich gwyliau a’ch diwrnodau allan, ond gwnewch hi gyda thipyn o feddwl. Meddyliwch am sut rydych chi’n teithio – gallech ystyried amodau gweithio’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yma a thramor a lleddfu’r effaith a adewch ar eich ôl.

 

Cludiant a Theithio

Oes gwir angen i ni fynd â’r car bob tro? Mae buddion niferus o wneud dewisiadau eraill, yn enwedig gyda’r costau tanwydd cynyddol a allyriannau carbon. Mae cerdded a seiclo’n ffyrdd gwych o deithio, ymarfer a helpu i ostwng straen, ac arbed y blaned a’n ceiniogau!

 

Technoleg

Gall atebion i rai o’n heriau mwyaf – er enghraifft ein hanghenion ynni neu’n hanghenion gwybodaeth – eisoes yno neu, o leiaf, ar fin cael eu datblygu. Mae’n fyd llawn darganfyddiad!

 

Cynaladwyedd

Mae rhai cyrff neu brosiectau’n gweithio ar draws amrediad cyfan cynaladwyedd ac yn mynd i’r afael ag ef o bob cyfeiriad, fel Cymrugynaladwy.com er enghraifft.

  

Os ydych yn dal i fod yn ansicr ynglŷn â chofrestru’ch prosiect ar cymrugynaladwy.com neu os nad ydych yn sicr am ba un yw’r pwnc mwyaf priodol ar gyfer eich prosiect chi, yna cysylltwch â ni a byddwn ni’n hapus ei drafod gyda chi. Mae’n manylion cyswllt ar y dudalen ‘cysylltu â ni’.