»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn aelod


Ymuno

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud ar y drafodaeth drwy ddod yn aelod o Cynnal Cymru-Sustain Wales.

Aelodaeth

Ymunwch â Cynnal Cymru-Sustain Wales a byddwch yn ymuno â rhwydwaith o bobl yn hyrwyddo byw cynaliadwy a rhannu ymarfer orau yng Nghymru. Byddwch yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar newyddion datblygiad cynaliadwy ac ymarfer orau.

Byddwn yn eich hysbysu am ddigwyddiadau perthnasol a hyfforddiant trwy ein e-cylchgrawn misol, astudiaethau achos a thudalennau we a chewch flaenoriaeth wrth gofrestru am ein digwyddiadau. Mae’n rhaid i aelodau fod dros 18, yn byw neu’n gweithio yng Nghymru a ganddynt ddiddordeb effro mewn cynaliadwyedd. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arall ac mae’n ddi-dâl i ymuno!

I ddod yn aelod o Cynnal Cymru-Sustain Wales, Lawrlwythwch ein ffurflen aelodaeth, cwblhewch eich manylion a'i gadw ar eich cyfrifiadur. Wedyn anfonwch e-bost atom, at info@cynnalcymru.com, gan lynu'r ffurflen i'r e-bost.

Partneriaid Rhwydwaith

Mae nifer o fusnesau a sefydliadau sy'n cymryd camau cadarnhaol ar gyfer cynaliadwyedd wedi ymuno gyda Cynnal Cymru fel Partneriaid Rhwydwaith.

Cysylltwch â Rhodri@cynnalcymru.com am fwy o wybodaeth.

Lawrlwythwch rhestr o Bartneriaid Rhwydwaith Cynnal Cymru.

Am wybodaeth bellach, ebostiwch info@cynnalcymru.com neu ffoniwch 02920 19 20 21.