»  Cyflwyno'ch hun » Cofrestru » English
SustainWales.com Atebion Cynaladwy i Gymru.  Cofrestrwch eich sefydliad a'ch prosiectau nawr

Ymuno!

Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:

Dewch yn ffrind neu aelod


Polisi

Mae'r tîm polisi yn casglu barnau'r cyhoedd ac arbenigwyr ar ystod o faterion DC ac yn rhoi cyngor i'r llywodraeth, gan helpu gweinidogion i ddatblygu polisïau sy'n cefnogi datblygiad cynaladwy.

Yn y rhan yma o'r safle gallwch ddarganfod ynglŷn â'n gwaith polisi cyfredol.

 

Ymateb i’r ymgynghoriad ar y ‘Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni’

Ateb i gais y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am gyfraniad i'w adroddiad ar Ardaloedd Carbon Isel

Gofynnodd y CDC am gyfraniadau i ymateb i’r cwestiwn ‘Pryd gall ardal galw ei hun yn Ardal Garbon Isel?’ Yn ein hymateb, gwnaethom gyfeirio at ein hargymhellion ar ymgynghoriad y Cynllun Gofodol Cymru (CGC) yn 2008 a gwnaethom ystyried sut y dylai’r diffiniad ymwneud â thargedau’r DU a Chymru, pwerau a dylanwad yr ardaloedd CGC, dulliau am strategaeth lleihau carbon a gwerthusiad trawiad-carbon. Hefyd gwnaethom amlygu pwysigrwydd ymrwymiad cyhoeddus ac astudiaethau achos carbon isel defnyddiol. 

Mae adroddiad terfynol y CDC wedi cael ei gyhoeddi nawr, a gallwch chi ei gael yma.

Ymateb i’r ymgynghoriad ar y ‘Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni’

Ymateb i’r ymgynghoriad ar y ‘Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni’

Mae gan y ddogfen yma gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yr amcan pwysig iawn o leihau defnydd ynni ac allyriadau nwyau tŷ gwydr yng Nghymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru yn gallu cael at help a chymorth i’w galluogi i wneud hyn. Ymysg y sylwadau yn ein hymateb gwnaethom:

- croesawi’r ffocws ar weithredoedd ymarferol, tymor byr sy’n gallu cael effaith yn syth, ond gwnaethom awgrymi y dylid cael mwy o eglurhad am sut bydd y gweithredoedd yma’n eistedd ochr yn ochr â gweithredoedd tymor hir, mwy arwyddocaol;

- croesawi’r ffaith fod y Cynllun yn ceisio cyfrannu at gyfeirio’r ddwy flaenoriaeth o fynd i’r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ond gwnaethom gwestiynu a chyfeiriwyd at y ddau o’r rhain yn gyfartal ac yn ddigonol yn y ddogfen;

- awgrymu y gellid ychwanegu pedwerydd amcan allweddol mewn perthynas â diogelwch ynni a’r angen i bob cartref a sector i ddod yn hydwyth i herion ynni’r dyfodol megis ‘olew brig’;

- croesawi’r defnydd o ‘hierarchaeth ynni’, lle blaenoriaethwyd lleihau’r galw am ynni

Lawrlwytho ein hymateb (Saesneg yn unig)

Strategaeth Swyddi Gwyrdd - Ein Hymateb

Strategaeth Swyddi Gwyrdd - Ein Hymateb

Mae ein hymateb i’r ymgynghoriad hwn yn croesawu’r gydnabyddiaeth fod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru “gyfrifoldeb i bobl Cymru i gyfarwyddo twf economaidd mewn ffordd a fydd yn bodloni anghenion y dyfodol”; ac y bydd hyn yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau sy’n bodoli, ac ar gyfer creu swyddi newydd. Mae’r Strategaeth yn ddull amserol a phriodol o fynd ati i greu swyddi newydd o ystyried yr argyfwng economaidd ac ecolegol sy’n ein hwynebu; ond mae angen iddi gyfleu mwy o synnwyr o bwysigrwydd a brys o ran yr angen i ailstrwythuro, sicrhau’r dyfodol a meithrin dyfalbarhad. Ymhlith yr argymhellion eraill a wnaed yn ein hymateb, rydym yn awgrymu:

- na ddylid ystyried y Strategaeth hon fel strategaeth sy’n cyflwyno ‘agwedd arbenigol’ ar yr economi, ond yn hytrach fel y strategaeth cyflogaeth ac economaidd gyffredinol sy’n cefnogi egwyddor drefnu ganolog DC LlCC;

- bod angen i’r Strategaeth gyrraedd nifer ehangach o randdeiliaid;

- bod yn rhaid darparu cefnogaeth i ddatblygu’r sgiliau, yr addysg a'r hyfforddiant angenrheidiol ac i alluogi seilwaith er mwyn cyflawni'r Strategaeth;

- bod angen synnwyr positif o fachu ar gyfle, gan bwysleisio’r potensial cyffrous sydd gan Gymru i arwain ar economi o fath newydd.

Lawrlwytho ein hymateb (Saesneg yn unig)

Diffinio Dyfodol Economaidd Cynaladwy i Gymru

Diffinio Dyfodol Economaidd Cynaladwy i Gymru

Daw’r 20 traethawd oddi wrth ystod eang o gyfranwyr, ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth gyfoethog o ran barn ac agwedd. Mae pryder ynglŷn â’r presennol a’r dyfodol: yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Ond eto, optimistiaeth yw’r persbectif llethol. Ymddengys fod ffydd eang yng nghreadigedd, diwydiant a diwylliant Cymru. Yn fwy amlwg byth mae ffydd yn y cyfan y mae Cymru a’i phobl yn ei gynnig.

Ymateb Cynnal Cymru-Sustain Wales i 'Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned', sef ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gynllun Datblygu Cynaliadwy newydd i Gymru - Saesneg yn unig

Ymateb Cynnal Cymru-Sustain Wales i 'Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned', sef ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gynllun Datblygu Cynaliadwy newydd i Gymru

*Saesneg yn unig

Cyfuniad yw’r ymateb o sylwadau ac awgrymiadau a gasglwyd oddi wrth ein haelodau, ein cyfeillion a phrosiectau sydd wedi’u cofrestru yn y cyfeirlyfr; staff, aelodau’r bwrdd a phartneriaid Trawsffurfio Cenedl. Mae’n dilyn ymlaen o adroddiad Trawsffurfio Cenedl Cynnal Cymru-Sustain Wales, a gyflwynwyd i LlCC fis Medi 2008 er mwyn darparu sail ar gyfer ail-lunio’r Cynllun yn gynnar yn y broses.

Yn ein hymateb rydym yn croesawu'r dyhead am wneud DC yn "nod strategol cyffredinol" Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), ac esblygiad y Cynllun o ddogfen y mae gofyn cyfreithiol amdani a sydd â chanolbwynt mewnol iddi, i gynllun y mae LlCC o’r farn y "dylid ei ystyried yn gynllun datblygu cynaliadwy i bobl Cymru" ac a fydd "yn galluogi sefydliadau yng Nghymru i gysoni eu gweithgareddau" ag ef.

Rydym yn argymell gwelliannau o ran eglurder ei bwrpas, ei gyflenwi, ei ffocws a’i ddyhead; ac rydym yn awgrymu sut gallem ni fel sefydliad gynorthwyo LlCC i gyflawni’r ymwneud a’r ymgysylltiad ehangach dymunadwy â’r Cynllun.

Diweddariad Polisi

Diweddariad Polisi

Crynodeb misol o ddatblygiadau polisi yn ymwneud â DC yng Nghymru

Chwefror 2010

Rhagfyr 2009 & Ionawr 2010

Tachwedd 2009

Hydref 2009

Medi 2009

Awst 2009

Gorffennaf 2009

Mehefin 2009

Mai 2009

Ebrill 2009

Mawrth 2009

Chwefror 2009

Ionawr 2009

Rhagfyr 2008

Tachwedd 2008

Hydref 2008*

 

*Saesneg yn unig

Trawsffurfio Cenedl

Rydym yn ddiweddar wedi cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy a'r Cynllun Gweithredu, sy'n canolbwyntio ar y camau medrwn gymryd i yrru'r agenda DC ymlaen yng Nghymru dros y 4 blynedd nesaf a thu hwnt.

Ymateb i Gynllun Gofodol Cymru - Saesneg yn unig

Ymateb i Gynllun Gofodol Cymru

Yn gynharach eleni ymatebodd Cynnal Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ‘Diweddariad 2008 o Gynllun Gofodol Cymru: Pobl, Lleoedd, Dyfodol’. Tynnodd yr ymateb ar gyfres o weithdai gydag aelodau Cynnal Cymru, yn ogystal â thystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwil ar gyfer ein hadroddiad ‘Trawsffurfio Cenedl’. Casglodd yr ymateb bod y Diweddariad yn cynnig cyfle am Gynllun Gofodol aeddfetach, seiliedig ar dystiolaeth, cynhwysol ac wedi ei ystyried yn ofalus, i wireddu DC yng Nghymru. Mae’n cynnwys 14 o argymhellion i wneud i’r Cynllun Gofodol adlewyrchi heriau datblygiad cynaladwy, ac i gynyddu’n dealltwriaeth a throsglwyddiad o ddatblygiad cynaladwy drwy gynllunio gofodol a phartneriaethau.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn fan hyn.

* Saesneg yn unig

Economi Gynaladwy i Gymru - Saesneg yn unig

Economi Gynaladwy i Gymru

Cyhoeddwyd yr adroddiad yma gan Cynnal Cymru ym Mehefin 2006, ond mae ei gynnwys yr un mor berthnasol heddiw - yn enwedig o ystyried ymgynghoriadau LlCC sydd i ddod ar Gynllun Datblygiad Cynaladwy a Strategaeth Swyddi Gwyrdd. Dyma ganlyniad gweithdy a gynhaliwyd gan Cynnal Cymru wedi ei bwriadu’n benodol i ystyried datblygiad cynaladwy o safbwynt economaidd. Mae’r adroddiad yn darparu ychydig o gefndir ar sut byddem yn gallu meddwl am ddatblygiad cynaladwy, a sut mae hyn yn berthnasol i gyd-destun Cymreig; yn ystyried sut fyddai Cymru ‘gynaladwy’ yn edrych, a pha fath o economi fyddai’n tanategu’r fath rhanbarth; ac yn esbonio sut y gall derbyn meini prawf cynaladwyedd ar gyfer gwneuthuriad polisi olygu poen tymor byr economaidd, ond hefyd wrth roi i ni fantais y ‘symudydd cyntaf’, y gallai olygu manteision tymor hir.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn fan hyn.

* Saesneg yn unig