Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn aelod

Copenhagen: Ffordd Gadarnhaol Ymlaen
Gwnaeth Cynnal Cymru-Sustain Wales gynnal noswaith gyda’r siaradwyr gwadd Jane Davidson (Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai), Julian Rosser (Oxfam Cymru) a Paul Allen (Y Ganolfan Dechnoleg Amgen), yn Y Senedd, Bae Caerdydd, ym mis Chwefror 2010.
Gwnaeth y Gweinidog rhoi ei hadroddiad hi o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a ddigwyddodd yn Copenhagen ym mis Rhagfyr, a swyddogaeth Cymru yn y broses. Gwnaeth y Gweinidog hefyd esbonio pam ei bod hi’n credu y dylem ystyried Copenhagen fel man cychwyn, a chanolbwyntio’n gadarnhaol ar y camau nesaf tuag at sicrhau bargen gref a pharhau i ddangos arweinyddiaeth yma yng Nghymru.
Bu i Julian Rosser a Paul Allen, oedd hefyd wedi mynychu’r Uwchgynhadledd, rhoi eu myfyrdodau personol ar y trafodaethau a’u canlyniad, a sut, yn awr mwy nag erioed, mae angen i gymdeithas sifil, busnes a llywodraeth yng Nghymru i weithredu a dangos arweinyddiaeth.
Roedd y noson yn llwyddiant mawr, gyda dros 150 yn mynychu o gyrff anllywodraethol, busnes, y sector gyhoeddus a chymunedau.
Darllenwch gyflwyniad Paul Allen
Darllen pellach:
Adroddiad Syr John Houghton
Adroddiad ENDS – ‘Where to Now?’