Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Os oes gennych gwestiwn am fyw cynaladwy, anfonwch e-bost at rhiannon@sustainwales.com ceisiwn eu hateb a chaiff rhai cwestiynau eu postio ar y safle hwn.
C. Beth mae byw cynaladwy yn ei olygu mewn gwirionnedd i mi a’m teulu?
C. Faint fydd byw’n fwy cynaladwy’n costio i mi?
C. Ydy byw cynaladwy ond yn ymwneud ag ailgylchu a’r amgylchedd?
C. Rydw i’n brysur iawn. Fydd gwneud newidiadau cynaladwy i’m bywyd yn faich ychwanegol?
C. Pam ddylwn i boeni am ailgylchu pan gaiff ei anfon i Tsieina i’w dirlenwi beth bynnag?
C. Ydy hi’n wir bod fy nghar yn gallu rhedeg ar hen fraster sglodion?
C. Beth mae ‘gwrthbwyso carbon’ yn ei olygu a sut mae’n gweithio?
C. Beth mae byw cynaladwy yn ei olygu mewn gwirionnedd i mi a’m teulu?
A. Mae byw cynaladwy’n golygu meddwl am y ffordd rydych chi a’ch teulu’n byw a gwneud pethau mewn modd sy’n diwallu’ch anghenion chi ond heb achosi effaith negyddol ar eraill a’r amgylchedd.
Nid yw mor frawychus ag mae’n swnio ac nid oes rhaid i chi droi’ch trefn a’i hwyneb i waered er mwyn gwneud gwahaniaeth; cofiwch fod pethau bach yn cronni’n newidiadau mawr.
Mae cymrugynaladwy.com yn llawn syniadau i’ch dechrau ar y ffordd i fywyd mwy cynaladwy – syniadau a allai hyd yn oed arbed punnoedd i chi a chael eich teulu’n ffitach ac yn iachach!
C. Faint fydd byw’n fwy cynaladwy’n costio i mi?
A. Does dim rhaid i fyw’n fwy cynaladwy gostio ceiniog i chi. Mewn gwirionedd, bydd llawer o ddewisiadau ffyrdd cynaladwy o fyw’n arbed arian i chi!
Bydd prosiectau mwy, fel gosod paneli heulol ar eich tŷ, yn costio arian i chi ar y dechrau, ond y peth pwysicaf i’w gofio yw’r wobr yn y tymor hir. Yn ogystal â lleihau’r angen am danwyddau ffosiledig, ymhen amser, bydd y buddsoddiadau hyn yn talu amdanynt eu hunain - byddwch yn dechrau gweld arbedion yn eich poced hefyd! Hefyd, efallai y bydd grantiau ar gael i helpu gyda’r gost.
Mae cymrugynaladwy.com yn llawn awgrymiadau sy’n egluro’r hyn y gallwch ei wneud i helpu i arbed punnoedd a’r blaned a gallwch chwilio yn ôl c od post i gael gwybod yn union beth gallwch chi ei wneud er mwyn byw’n fwy cynaladwy yn eich ardal leol.
C. Ydy byw cynaladwy ond yn ymwneud ag ailgylchu a’r amgylchedd?
A. Mae gan y ffordd rydyn ni’n byw’n bywydau a phob dewis a wnawn y potensial i effeithio ar yr amgylchedd, pobl o’n cwmpas a chymunedau pellach i ffwrdd.
Wrth gwrs, mae ailgylchu’n rhan bwysig iawn o leihau’r niwed rydyn ni’n achosi i’n planed a bydd, yn ddi-os, yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd, ond dim ond un elfen o fyw cynaladwy yw hi – mae’n syniad hawdd i’ch rhoi ar ben y ffordd!
Mae byw cynaladwy’n ymwneud ag edrych ar y ffordd rydych chi’n byw’ch bywyd a’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud bob dydd.
Ceisiwch ystyried canlyniadau ehangach pob un o’ch penderfyniadau. Er enghraifft, os prynwch gynnyrch organig, lleol, byddwch yn sicrhau eich bod yn cael bwyd ffres, iach, o ansawdd da i’ch teulu, yn cefnogi’ch economi leol, yn helpu i gadw busnesau lleol yn masnachu ac yn cadw’ch cymuned yn fywiog. Gwell byth, trwy gerdded i’ch siop neu’ch marchnad leol, byddwch yn lleihau niwed i’r amgylchedd trwy ostwng nifer yr allyriannau byddech chi’n eu cynhyrchu trwy deithio. Mae pawb ar ei ennill!
Felly, yn gryno, nid yw byw cynaladwy ond am ailgylchu a’r amgylchedd; mae’n ymwneud â meddwl am effaith ehangach eich penderfyniadau a cheisio gwneud dewisiadau a fydd yn lleihau niwed i bobl a’r blaned.
C. Rydw i’n brysur iawn. Fydd gwneud newidiadau cynaladwy i’m bywyd yn faich ychwanegol?
A. Does dim amheuaeth bod newid eich trefn yn cymryd tipyn o ddod yn i arfer â hi. Fodd bynnag, mae un newid bach ar y tro’n ffordd gyflym a hawdd iawn o gychwyn ar y llwybr i fywyd mwy cynaladwy. Mae gwneud y newidiadau lleiaf, fel diffodd eich teledu’n iawn pan ewch allan neu i’r gwely, yn lle ei adael ar barod, yn ffordd wych i bobl brysur ddechrau.
Mae cymrugynaladwy.com yn llawn awgrymiadau cyflym a syniadau y gall rhywun gyda’r dyddiadur mwyaf llawn hyd yn oed eu hychwanegu at ei drefn ddyddiol. Ac os oes angen cymhelliant ychwanegol arnoch, bydd llawer o’r syniadau ar y wefan hefyd yn eich helpu i arbed arian a mynd yn iachach!
C. Rydw i’n gwneud fy ngorau i fynd â photeli gwag i gyd fy nheulu i’r banc poteli bob mis, ond sut alla i annog fy nheulu i ailgylchu mwy o’n sbwriel pan nad oes gwasanaeth casglu ar gyfer yr holl bethau eraill?
A. Rhowch gynnig ar y camau syml hyn: Lleihewch-Ailddefnyddiwch-Ailgylchwch
Lleihewch: Dechreuwch drwy annog eich teulu i leihau faint o becynnau maen nhw’n dod â nhw adref drwy brynu llai, drwy ddewis eitemau rhydd yn hytrach na rhai gyda llawer o becynnau neu drwy wrthod bag cario pan nad oes ei angen yn wir. Erbyn hyn mae rhai cwmnïau’n cynnig pecynnau pydradwy ar eu nwyddau, a wneir o faterion fel penlas yr ŷd a all gael ei gompostio.
Ailddefnyddiwch: Yna ceisiwch ailddefnyddio eitemau defnyddiol y dewch â nhw adref fel mynd â’ch bagiau cario gyda chi pan ewch i siopa neu cadwch eich tybiau hufen iâ a’ch potiau jam - perffaith ar gyfer rhewi bwyd neu gadw sgriwiau gyda’i gilydd yn y sied. A pheidiwch ag anghofio Atgyweiriwch sy’n gallu adfywio’ch eitemau.
Ailgylchwch: Os dilynwch y camau syml hyn, bydd yn golygu bod gennych lawer llai i fynd ag ef i’r fan ailgylchu leol bob mis, gan ei wneud e’n haws o lawer i’w reoli. Dylech hefyd geisio cysylltu â’ch awdurdod lleol i gael gwybod pryd byddwch yn cael gwasanaeth casglu ailgylchu yn eich ardal.
I gael gwybod lle y gallwch ailgylchu’ch nwyddau i gyd yn hawdd yn eich ardal chi, ewch i www.recyclenow.org.
Rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn:
Ailgylchu a Gwastraff
Cartref a Siopa
Cymuned
Cynaladwyedd
C. Gyda’r negeseuon gwahanol i gyd rydyn ni’n cadw i’w clywed y dyddiau hyn, weithiau pan rydw i allan yn siopa, rydw i’n drysu am ba un dylwn i brynu: masnach deg, wedi’i gael yn lleol, organig neu gynnyrch ffres?
A. Mae popeth sydd yn ein harchfarchnadoedd wedi mynd trwy broses o gynhyrchu, masnachu, a theithio er mwyn cyrraedd y silffoedd. Mae cysyniadau organig, masnach deg a nwyddau ffres sydd wedi’u cael yn lleol yn perthyn yn syml iawn i’r tri pheth hyn.
Mae cynhyrchu Organig yn cydnabodbod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd y bwyd rydyn ni’n ei fwyta a’r pridd y mae wedi’i bori arno neu y mae wedi tyfu ynddo. Mae rheoliadau caeth sy’n sicrhau nad oes cemegion yn y bwyd ac na roddir cyffuriau i anifeiliaid i’w diogelu rhag plaleiddiaid ac arfilod a defnyddir dulliau amgen. Mae hyn hefyd yn cadw’n hafonydd yn lân a’n pysgod yn iach ac mae’n diogelu anifeiliaid eraill yn y gadwyn fwyd fel adar.
Mae nwyddau a fasnechir yn deg yn sicrhau y rhoddir pris teg i’r cynhyrchydd. Mae hyn yn ei alluogi ef yn ei dro i roi cyflog teg i’w weithwyr a buddsoddi mewn ffermio a chynhyrchu gwell a mwy diogel. Yn rhy aml, rhoddir pwysau ar gynhyrchwyr am y pris isaf posibl gan olygu y byddan nhw naill ai’n troi at amodau gweithio rhad, annheg, ac anniogel neu bydd y busnes yn darfod. Mae nwyddau masnach deg bellach ar gael yn y mwyafrif o siopau ac â’r prisiau i lawr wrth i fwy o bobl eu prynu.
Y trydydd peth i’w ystyried yw’r pellter mae’r bwyd wedi teithio er mwyn cyrraedd y siop. Mae popeth yn clocio milltiroedd bwyd ar ei ffordd i’r siopau. Mae hyn yn golygu bod allyriannau carbon yn cael eu rhyddhau i’r awyrgylch gan gyfrannu at godi gwres y ddaear. Mae llawer o’n bwyd yn dod o dramor, yn arbennig yr hyn sydd allan o dymor. Ceisiwch edrych am nwyddau tymhorol sydd wedi’u tyfu’n lleol, byddan nhw’n rhatach hefyd gan eu bod nhw’n niferus.
Mae llawer o bethau gwahanol i’w pwyso a’u mesur pan wnawn ein siopa, ewch gyda’ch greddf a cheisiwch beidio â phoeni gormod am amrywiaeth fawr y dewisiadau moesegol sydd bellach ar gael!
Rhowch gynnig ar chwilio am brosiectau o dan y pynciau hyn:
Ailgylchu a Gwastraff
Iechyd
Bwyd a Diod
Amaethyddiaeth
Cartref a Siopa
Cymuned
Economi ac Arian
C. Pam fod angen i mi ddiffodd y tap wrth frwsio fy nannedd neu i atal defnyddio fy mhibell ddŵr ar fy lawnt i arbed dŵr pan rydyn ni’n ynys wedi’i chwmpasu gan ddŵr, does bosib ei bod cynddrwg â hynny?
A. Am bob munud mae’r tap yn llifo, mae’n gwastraffu 10-28 litr o ddŵr o safon yfed. Mae dŵr a gyflenwir i’n cartrefi’n dod o ddŵr glaw sydd wedi’i gymryd o afon, ei drin yn gemegol i safon yfed, ac yna ei bwmpio llawer o filltiroedd. Gyda lefelau glaw blynyddol yn dechrau disgyn, bellach mae rhannau o’r DU yn rheolaidd yn profi amodau sychder ac nid oes digon o ddŵr yn ein hafonydd i gyflenwi anghenion pawb.
Mae dŵr yn drwm iawn ac mae’r ynni a ddefnyddir i’w gael i’ch cartref yn effeithio ar godi gwres y byd hefyd. Gallech ystyried cael casgen ddŵr i gasglu’ch dŵr glaw’ch hun ar gyfer eich gardd, sy’n llawer gwell i’ch planhigion na dŵr wedi’i drin, a rhoi disodlwr dŵr fel ‘hipo’ neu fricsen tŷ syml yn siston eich tŷ bach i leihau faint o ddŵr a dynnir bob tro.
C. Pam ddylwn i boeni am ailgylchu pan gaiff ei anfon i Tsieina i’w dirlenwi beth bynnag?
A. Mae adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi honni bod llawer o wastraff ailgylchadwy’n cael ei anfon tramor i’w waredu drwy dirlenwi. Weithiau gall yr adroddiadau hyn fod yn gamarweiniol. Anfonir llawer o faterion tramor i’w hailgylchu oherwydd bod angen mwy ar farchnadoedd sy’n dod i’r amlwg, fel Tsieina ac India wastraff ailgylchedig nag mae eu heconomïau eu hun yn gallu ei gyflenwi.
Mae cyfraith ryngwladol, Ewropeaidd a'r DU i gyd yn cynnwys rheolau a rheoliadau am symud gwastraff ac mae’r ymdrechion i olrhain a rheoli’r symudiadau hyn newydd gael eu tynhau. Yn y DU, mae’n rhaid i bob allforiwr gwastraff gofrestru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, ac ni all anfon gwastraff rheoledig ar long ond i wledydd rheoledig gyda thrywydd archwilio gweladwy. Ni ellir anfon gwastraff cymysg na gwastraff tŷ ar long (NetRegs).
C. Ydy hi’n wir bod fy nghar yn gallu rhedeg ar hen fraster sglodion?
A. Rydyn ni’n gallu defnyddio olewon a brasterau llysiau ail law mewn nifer o ffyrdd. Rydyn ni’n gallu eu llosgi mewn gorsafoedd pŵer, gan helpu i greu ynni glanach o’u cyd-danio gyda thanwyddau ffosiledig, eu defnyddio fel ireidiau, neu eu defnyddio fel bio-ddiesel ar gyfer ceir.
Dylid ei ddefnyddio dim ond mewn ceir sy’n rhedeg ar ddiesel fel arfer, ond dylech ofyn am gyngor cyn newid i fio-danwydd ac mae angen addasu arbennig ar geir sy’n cael eu cynnal 100% ar fio-ddiesel. Yn ôl Diwydiannau Bio-ddiesel Cysylltiedig y DU, bydd defnyddio olewon llysiau pur neu gymysgeddau rhyfedd mewn injanau sydd heb eu haddasu yn niweidio’ch injan.
Mae’n ffordd wych o gael gwared ar hen frasterau fyddai fel arall yn llenwiu a thagu ein biniau a charthfosau ac yn gostwng defnydd tanwydd ffosil. Gall hefyd fod o fudd i’r gymdeithas pan gaiff y bio-ddiesel ei gynhyrchu yn y gymuned ar gyfer y gymuned yn defnyddio breasterau a gasglwyd o llefydd o fewn y gymuned.
ASTUDIAETH ACHOS: Sundance Renewables
C. Beth mae ‘gwrthbwyso carbon’ yn ei olygu a sut mae’n gweithio?
A. Mae deuocsid carbon (CO 2) yn elfen hanfodol i fywyd ar y ddaear. Amsugnir ef gan blanhigion trwy gydol eu bywydau a rhyddheir ocsigen, gan roi aer glân i ni ei hanadlu.
Mae tanwyddau ffosiledig yn dod o blanhigion a fu farw filiynau o flynyddoedd yn ôl, a drodd yn olew neu lo dros dro gan gloi’r carbon o dan y ddaear. Wrth i ni eu llosgi, gyrru’n ceir, coginio ar y pentan nwy, defnyddio trydan yn ein cartrefi, rydyn ni’n rhyddhau’r carbon yn ôl i’r awyrgylch. Credir mai cynhyrchu nwyau carbon yn ormodol yw un o brif achosion codi gwres y byd gan ddyn.
Y syniad sydd y tu ôl i wrthbwyso carbon yw gwrthbwyso faint o garbon rydyn ni’n gyfrifol amdano’n bersonol trwy dalu am brosiectau sy’n gostwng allyriannau carbon mewn mannau eraill – er enghraifft, trwy fuddsoddi mewn technoleg tanwydd effeithlon neu brosiectau ynni adnewyddadwy neu drwy blannu coed i amsugno’r carbon.
Mae sut mae pobl yn dewis gweithredu yn fater personol ac mae amheuwyr yn dadlau bod nifer o faterion moesegol ac moesol ynghylch talu i wneud yn iawn am ein heuogrwydd tra’n parhau i ryddhau carbon fel arfer. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o bobl yn cytuno bod angen lleihau’n defnydd tanwydd, lleihau effaith datgoedwigo a buddsoddi mwy mewn technolegau tanwydd effeithlon ac ynni adnewyddadwy.