Ymuno!
Ymunwch, cewch wybodaeth a chewch eich dweud yn nhrafodaeth DC:
Dewch yn ffrind neu aelod
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod dylem fyw'n fwy cynaladwy.
Mae'r papurau newydd yn llawn storïau am newid hinsawdd, mae'r siopau pwysleisio masnach deg, mae hysbysiadau am sebon golchi yn dweud wrthym eu bod yn lleihau eu papur pacio a milltiroedd taith. Mae'n ddigon i'ch drysu. Beth yw'r materion pwysig a sut fedrwch chi wneud newidiadau i'ch bywyd bob dydd a fydd yn wir wneud gwahaniaeth?
Man cychwyn da yw deall yn iawn beth yw datblygiad cynaladwy. Rydym wedi cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin efallai bydd yn ddefnyddiol i chi, ond os na welwch chi ateb i'ch cwestiwn chi, rhowch wybod i ni - efallai bydd eraill am wybod yr union beth!
Mae awgrymiadau a syniadau ar ystod eang o bynciau - o arddio i gludiant ac o beth gallwch wneud yn eich cartref i gynllunio priodas!
Byddwn yn parhau i ychwanegu mwy i'r wefan i'ch helpu chi gael y wybodaeth sydd ei angen arnoch i fyw'n gynaladwy, felly dewch yn ôl yn aml neu llyfrnodwch y dudalen hon yn eich hoff wefan rhwydweithio gymdeithasol, gan ddefnyddio'r ddolen ar waelod y dudalen.